Mae murlun anhygoel wedi ymddangos yng nghanol y dref, ac aeth y Maer, sef y Cynghorydd Andy Williams, a Chefnogwr y Lluoedd Arfog, sef y Cynghorydd David Griffiths, draw i gyfarfod y bobl hynny sydd y tu ôl i’r syniad gwych yma.
Mae’r darlun anferthol ar wal allanol Caffi Marubbi’s yn Stryt y Banc yn ganlyniad cydweithio rhwng busnesau ac artistiaid lleol Wrecsam i Goffau’r Rhyfel Mawr gyda Murlun Stryd.
Paentiwyd y deyrnged dros y penwythnos gan Aaron Purvor, perchennog siop leol Geckos ar Stryt y Banc, ac un o wirfoddolwyr y prosiect, Wayne Price, sef un o gyfarwyddwyr Grŵp Busnes Wrecsam ac Undegun.
Meddai Wayne Price, “Cefais fy ysbrydoli gan nifer y bobl oedd eisiau talu teyrnged i’r unigolion dewr hynny a fu farw, a fu’n ymladd neu a fu’n rhan o’r Rhyfel Mawr mewn rhyw ffordd.” Ychwanegodd, “Mae yna nifer o bobl a sefydliadau y mae’n rhaid i mi ddiolch iddyn nhw am eu rhan yng nghyflawni’r murlun hwn. Yn gyntaf, diolch i Mr Marubbi o gaffi Marubbi’s am gynnig ei wal, ac i Aaron o Geckos am ei holl waith dros y penwythnos. Rhaid i mi ddiolch hefyd am gefnogaeth Grŵp Busnes Wrecsam, CIC, Cyngor Wrecsam am eu cyfraniad drwy eu Cronfa Grant Galluogi ‘Wrecsam Ynghyd’, ac Undegun Arts am eu harbenigedd a’u deunyddiau. Hefyd, rhaid i ni ddiolch i Gynghorau Cymuned Offa a Rhosddu am eu cefnogaeth ar gyfer Prosiect Celf Adeiladau Wrecsam.”
Meddai Aaron Purvor, “Mae gen i berthnasau a fu’n ymladd yn y rhyfel, felly rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hwn. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen i weld y murlun o ffenestr fy siop bob dydd.”
Pan ofynnwyd iddyn nhw a oedd ganddyn nhw gynlluniau eraill am brosiectau stryd, atebodd Wayne Price, “Oes gobeithio; rydym ni’n gobeithio cynnal dau brosiect arall ar Stryt y Banc yn y misoedd i ddod. Os hoffai unrhyw un ddod yn rhan o’r prosiect, chwiliwch am y Prosiect Celf Adeiladau ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rhywbeth i’r dyfodol ydi hynny, heddiw, rydym ni i gyd yn hapus clywed y sylwadau cadarnhaol am y coffâd hwn o’r Rhyfel Mawr gan gymaint o’r cyhoedd yn Wrecsam. Tra’r oeddem ni’n paentio, roedd pobl yn cerdded heibio gyda gwên ar eu hwynebau.”
Cytunodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog a’r Maer fod y murlun yn deyrnged addas ac yn ddarn ardderchog o waith celf ar gyfer y coffâd canmlwyddiant arbennig hwn.
Gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o weithiau celf i ymddangos yng nghanol y dref dros y misoedd i ddod, felly cadwch olwg amdanyn nhw!
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Wayne Price ar: 07425 112 940 neu wayne@undegunarts.com