Cardiff to Holyhead

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dros £600k wedi cael ei fuddsoddi yn Rhiwabon, gennym ni a gan y Consortia Cludiant Rhanbarthol, i ddatblygu Gorsaf Rhiwabon yn ganolfan drafnidiaeth, gan ddarparu maes parcio, cyfnewidfa bysiau a threnau, gwelliannau i fannau aros, mynedfa newydd i’r orsaf a TCC.

Ond mae angen mwy o gyllid i wella mynediad heb risiau yn Rhiwabon, gan fod y platfform tua’r gogledd ar hyn o bryd wedi’i gysylltu â’r platfform tua’r de gyferbyn gyda phont droed, heb ffordd arall o fynd o un i’r llall.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Golyga hyn na all teithwyr trenau sy’n defnyddio cadeiriau olwyn neu sgwteri symudedd ddefnyddio’r rhwydwaith tua’r gogledd os ydynt yn gadael Gorsaf Rhiwabon, ac na allant ddod oddi ar y trên yn Rhiwabon os ydynt yn dod yn ôl ar wasanaeth tua’r de.

Yn ogystal â defnyddwyr cadeiriau olwyn, mae’r broblem hon hefyd yn effeithio teithwyr gyda phlant neu fabanod mewn coets, neu bobl gyda phroblemau symudedd sy’n teithio gyda bagiau.

Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, CLlLC a’r Adran Drafnidiaeth yn amlinellu ein dyheadau i ddatblygu’r orsaf yn gyswllt twristiaeth allweddol yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys gwella problemau mynediad.

“Bydd mynediad yn dod yn fwyfwy pwysig”

Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Rydym wedi bod yn ceisio helpu datrys problem mynediad heb risiau mewn gorsafoedd yn y fwrdeistref sirol ers peth amser, a bu i aelodau’r Bwrdd Gweithredol gytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y rhwydwaith drenau yn y fwrdeistref sirol pan amlinellwyd mynediad heb risiau yn Rhiwabon fel un o’n uchelgeisiau yn ein hadroddiad Dyfodol Rheilffyrdd yn Wrecsam, a gyhoeddwyd ddechrau 2015.

“Gwyddom y bydd problemau mynediad yn ein gorsafoedd rheilffordd yn dod yn fwyfwy pwysig gyda rhyddfraint newydd wedi’i sefydlu ar gyfer Cymru a’r Gororau, a’r cynnydd tebygol yn y teithwyr fydd yn defnyddio rheilffyrdd yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

“Gyda hynny mewn golwg, byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth am fwy o gyllid a chymorth i wella ein Rhwydwaith.  Ni ddylai unigolion â phroblemau symudedd orfod teithio’n hirach na gwneud teithiau diangen os ydyn nhw eisiau defnyddio’r trenau.”

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

DWI ISIO MYNEGI FY MARN DOES DIM OTS GEN I