Hanner can mlynedd ar ôl symud i adeilad y llyfrgell yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd ag ef, mae Llyfrgell Wrecsam yn dathlu!
Dros y misoedd nesaf, bydd nifer o ddigwyddiadau i’w mwynhau a nodi’r achlysur, ac mae’n dechrau ag arddangosfa o’r llyfrgell o’r diwrnod yr agorodd hi yn 1972 hyd at heddiw.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Galwch heibio’r llyfrgell dros y misoedd nesaf a byddwch chi’n gallu gweld sut mae’r llyfrgell wedi edrych a datblygu dros y blynyddoedd yn cynnwys y diwrnod y cyrhaeddodd y cyfrifiaduron cyhoeddus cyntaf yn 1983 ac ail-agor y llyfrgell wedi’i hadnewyddu gyda Ruth Jones o Gavin and Stacey yn 2010.
Byddwch chi hefyd yn gallu gweld rhywfaint o dechnoleg arloesol a roddodd enw i Lyfrgell Wrecsam fel y ‘gyntaf yng Nghymru’ yn ogystal â lluniau o aelodau staff mewn gwisg ffansi.
Yn ogystal â hyn, mae llyfr wrth ymyl yr arddangosfa lle gallwch chi ysgrifennu eich atgofion chi o’r llyfrgell. Bydd yn wych gweld yr hyn yr ydych chi’n ei gofio a’r gobaith yw y bydd yr hyn y byddwch chi’n ei ysgrifennu’n tanio atgofion i bobl eraill – rydym ni wedi clywed gan un person yn barod am hen gadeiriau oren y llyfrgell! (#IYKYK)
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI