Gwefan ryngweithiol ydi Wrecsam Ifanc i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw, gweithio neu’n astudio yn ardal Wrecsam. Mae amrywiaeth eang o wybodaeth ar y wefan am faterion mae pobl ifanc yn eu hwynebu bob dydd.
Mae’r wefan yn cynnwys pynciau fel:
– Alcohol, cyffuriau ac ysmygu
– Addysg
– Iechyd a pherthnasoedd
– Tai a llety
– Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol +
– Iechyd Meddwl
– Arian
– Teithio
– Gwaith a hyfforddiant
– Diogelwch ar y rhyngrwyd
Cymerwch ran – Cyfrannwch!
Mae egin awduron yn cael eu hannog i ysgrifennu erthyglau a chynnwys ar gyfer y wefan. Mae’r wefan yn adnodd gwych i unrhyw un rhwng 11 a 25 oed ac mae gweithwyr ieuenctid o’r Siop Wybodaeth yn galw am ragor o bobl ifanc i ysgrifennu cynnwys ar gyfer eu cyfoedion ar bynciau sy’n ddiddorol neu’n berthnasol i’w grŵp oedran.
Rhannu problem…
Nid yn unig gall pobl ifanc gael mynediad i wybodaeth ar y wefan, gallant gyflwyno cwestiwn neu broblem drwy Gofyn i Wrex. Gellir llwytho problemau neu gwestiynau a’u rhannu ymhlith cymuned Wrecsam Ifanc. Gellir cuddio enwau ar gwestiynau mwy difrifol i’w gwneud yn fwy cyfrinachol. Mae’n bosibl y bydd pobl yn y gymuned sydd wedi bod trwy sefyllfaoedd tebyg ac a fyddai’n gallu helpu. Gall plant hefyd ofyn bod eu cwestiynau ddim yn cael eu rhoi i’r gymuned eu gweld, ond yn cael eu hateb yn fwy preifat all-lein.
Mae Wrecsam Ifanc yn cael ei redeg o’r Siop Wybodaeth yn Wrecsam, sy’n wasanaeth arbenigol wedi ei reoli gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam.
Ewch i wefan Wrecsam Ifanc YMA
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR