pencil

Oeddech chi’n gwybod bod modd i bob plentyn yn y dosbarth derbyn yn ysgolion cynradd Wrecsam gael prydau ysgol am ddim bob dydd?

Enw’r cynllun yw ‘Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol’, a chafodd ei gyflwyno i bob dysgwr oedran dosbarth derbyn yng Nghymru ym mis Medi a bydd ar gael i bob plentyn oedran ysgol gynradd dros y 12-18 mis nesaf.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Os ydi eich plentyn yn y dosbarth yn y flwyddyn ysgol hon a’ch bod eisiau iddynt gael eu pryd ysgol am ddim yn yr ysgol, does dim rhaid i chi ymgeisio gan y byddant yn ei gael yn awtomatig.

Ydi eich sefyllfa wedi newid?

Os ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid eleni, efallai y bydd yna gymorth ariannol ychwanegol yn ogystal â’r prydau ysgol am ddim.

Fe allai hyn fod ar ffurf cymorth gyda gwisg ysgol a chostau cyfarpar drwy Grant Datblygu Disgyblion, gwersi cerddoriaeth, tripiau ysgol a chymorth ariannol drwy wyliau’r ysgol (tan ddiwedd mis Mawrth 2023).

Rydym yn eich annog i lenwi ffurflen Prydau Ysgol Am Ddim ar ein gwefan rhag ofn y gallwch gael gafael ar ragor o gymorth i’ch plentyn.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI