Erthgyl Gwadd – CThEF
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi rhybuddio bod gan gwsmeriaid credydau treth fis i adnewyddu eu hawliad, neu mae peryg y caiff eu taliadau eu hatal.
Y dyddiad cau yw 31 Gorffennaf. Mae mwy na 300,000 o gwsmeriaid a gafodd becyn adnewyddu gyda llinell goch a’r geiriau ‘atebwch nawr’ ar draws y dudalen gyntaf, angen cadarnhau eu hamgylchiadau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol i barhau i gael taliadau.
Mae amgylchiadau a allai effeithio ar daliadau credydau treth yn cynnwys newidiadau i drefniadau byw, gofal plant, oriau gwaith neu newid mewn incwm.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf i gwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth yw yn ddigidol drwy GOV.UK neu ap CThEF.
Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
“Dylech weithredu nawr er mwyn bodloni’r dyddiad cau ar gyfer adnewyddu eich credydau treth, sef 1 Gorffennaf, neu gallai’ch taliadau ddod i ben. Nid oes angen i chi ein ffonio ni, mae adnewyddu yn gyflym ac yn hawdd drwy GOV.UK neu ap CThEF. I gael manylion am sut i adnewyddu, chwiliwich am ‘manage my tax credits’ ar GOV.UK.”
Anfonodd CThEF ddau fath o becynnau adnewyddu i 1.5 miliwn o gwsmeriaid rhwng 2 Mai a 15 Mehefin 2023. Roedd y rheiny fel a ganlyn:
- roedd gan becynnau ‘atebwch nawr’ linell goch ar draws y dudalen gyntaf ynghyd â’r geiriau ‘atebwch nawr’. Mae’n rhaid i gwsmeriaid gadarnhau eu hamgylchiadau i adnewyddu eu credydau treth
- roedd gan becynnau ‘gwiriwch nawr’ linell ddu ar draws y dudalen gyntaf ynghyd â’r geiriau ‘gwiriwch nawr.’ Os yw manylion cwsmer yn gywir nid oes angen iddynt wneud unrhyw beth a fydd eu credydau treth yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig.
Mae cymorth ar gael ar GOV.UK ar gyfer cwsmeriaid sy’n adnewyddu hawliadau ac mae CThEF wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEF i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru.
Mae troseddwyr yn defnyddio adnewyddiadau credydau treth a therfynau amser eraill mewn sgamiau i geisio twyllo pobl i rannu eu manylion bancio neu fanylion personol eraill. Mae enghreifftiau o sgamiau cyffredin yn cynnwys e-byst neu negeseuon testun yn honni nad yw manylion unigolyn wedi’u diweddaru ac maen nhw mewn perygl o golli allan ar daliadau sy’n ddyledus iddynt.
Os yw galwad ffôn, neges destun neu e-bost yn annisgwyl, peidiwch â rhoi gwybodaeth breifat nac ateb, a pheidiwch â lawrlwytho atodiadau na chlicio ar gysylltiadau.
Mae CThEF hefyd yn rhybuddio pobl i beidio â rhannu manylion mewngofnodi ar gyfer gwasanaethau gydag unrhyw un arall. Ewch i GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am sgam neu weithgarwch amheus.
Bydd credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024. Bydd cwsmeriaid sy’n cael credydau treth yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn rhoi gwybod iddynt pryd i hawlio Credyd Cynhwysol. Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn hawlio erbyn y dyddiad cau yn y llythyr er mwyn parhau i gael cymorth ariannol. Mae hyn oherwydd bydd eu credydau treth yn dod i ben hyd yn oed os ydynt yn penderfynu peidio â hawlio Credyd Cynhwysol.
Mae’r llywodraeth yn cynnig Help i Gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael gwybod pa gymorth gyda chostau byw y gall unigolion fod yn gymwys ar ei gyfer.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch