Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng parth cerddwyr ac ardal lle na chaniateir unrhyw gerbydau?
Ydych chi’n gwybod beth a olygir gan ‘lwytho a dadlwytho’?
I sicrhau nad ydych yn cael dirwy yng nghanol y ddinas, darllenwch ymhellach i ddarganfod lle y gallwch yrru, a phryd.
Caiff parthau cerddwyr eu sefydlu i wneud canol y ddinas yn fwy diogel ac yn fwy apelgar i siopwyr. Hefyd mae gan ardaloedd i gerddwyr lygredd aer is, maent yn dawelach ac maent yn edrych yn well.
Yn Wrecsam, mae gennym ni dri pharth cerddwyr – yn dibynnu ar lle y maent ac anghenion y preswylwyr a’r busnesau sydd wedi eu lleoli ar y strydoedd.
Parth Cerddwyr A:
Dim mynediad i gerbydau modur ac eithrio ar gyfer bysiau/deiliaid bathodyn glas/llwytho a dadlwytho: cyn 11.30am ac ar ôl 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener, cyn 9.30am ac ar ôl 5pm Dydd Sadwrn a chyn 1pm ac ar ôl 5pm ar ddydd Sul.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Ble: Stryt y Lampint, Stryt y Syfwr, Stryt Henblas, Stryt yr Hôb, Stryt Caer.
Parth Cerddwyr B:
Dim mynediad i bob cerbyd modur ac eithrio ar gyfer llwytho a dadlwytho, cerbydau hacni a thacsis.
Ble: Ffordd Rhosddu (ger swyddfa gyrfaoedd y Fyddin) a Stryt Argyle
Parth Cerddwyr C:
Dim mynediad i bob cerbyd modur ac eithrio deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho.
Ble: Stryt Siarl
Gorchmynion gwahardd cerbydau modur yn cyfyngu ar y mathau o gerbydau ac yn cyfyngu’r rhesymau y gallant gael mynediad i strydoedd penodol. Mae yna dair ardal yng nghanol y ddinas lle mae gwaharddiadau ar gerbydau modur mewn grym (mae’r rhain mewn grym bedair awr ar hugain y dydd saith diwrnod yr wythnos):
Gwahardd pob cerbyd modur A:
Ac eithrio bysiau, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho a mynediad i eglwys San Silyn.
Ble: Y Stryt Fawr, Stryt yr Eglwys ac Allt Uchaf y Dref
Gwahardd pob cerbyd modur B:
Ac eithrio ar gyfer mynediad, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho, bysiau a cherbydau hacni.
Ble: Stryt y Brenin (o gyffordd Stryt y Rhaglaw i gyffordd Stryt yr Arglwydd) a Stryt y Dug
Gwahardd pob cerbyd modur C:
Ble: Stryt Egerton (o Ffordd Rhosddu i’r gyffordd gyda Stryt yr Arglwydd)
Ydych chi’n credu eich bod yn gwybod beth yw llwytho a dadlwytho?
Llwytho neu ddadlwytho yw pan rydych yn symud nwyddau yn barhaus rhwng cerbyd ac eiddo. Hefyd fe ddylai’r nwyddau fod un ai yn drwm neu’n swmpus i roi’r hawl i dderbyn yr eithriad hwn.
I wybod mewn gwirionedd os ydych chi’n dadlwytho neu’n llwytho ac i beidio â bod mewn perygl o gael dirwy, dyma beth NAD YDYNT yn enghreifftiau o lwytho neu ddadlwytho!
- Parcio lle mae eich cerbyd yn achosi rhwystr
- Aros yn yr un lle pan ofynnwyd i chi symud gan un o swyddogion yr heddlu neu swyddog gorfodi traffig
- Gadael eich cerbyd pan nad ydych yn llwytho neu’n dadlwytho – un ai i gael egwyl neu i bacio neu ddadbacio eitemau o fewn yr eiddo
Beth sy’n digwydd os ydych yn torri’r rheolau?
Os ydych yn parcio cerbyd mewn parth cerddwyr pan na ddylech wneud hynny, fe allwch dderbyn hysbysiad cosb o £70 gan swyddogion gorfodi traffig y Cyngor.
Gallai gyrru drwy barth cerddwyr pan na ddylech wneud hynny olygu dirwy gan yr heddlu.
Eich cyfrifoldeb chi fel gyrrwr y cerbyd yw gwirio’r arwyddion sydd mewn grym a gwybod rheolau’r ffordd.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI