Rydym bellach wedi cyhoeddi ein Cynllun y Cyngor 2023-28.
Mae’r cynllun yn amlinellu ein blaenoriaethau lles a gytunwyd gan yr aelodau etholedig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ac yn nodi sut byddwn yn defnyddio ein hadnoddau i ddarparu’r hyn sy’n bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn Wrecsam.
Y chwe blaenoriaeth lles o fewn ein Cynllun y Cyngor yw:
- Darparu Gwasanaethau Stryd effeithlon a datgarboneiddio ein hamgylchedd.
- Datblygu ein heconomi.
- Sicrhau bod Wrecsam yn lle teg a diogel.
- Gwella addysg a dysgu.
- Hybu iechyd a lles (gan ganolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl da).
- Cynnal gweithlu tra medrus a brwdfrydig sy’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau.
O fewn pob un o’r 6 blaenoriaeth, rydym wedi nodi canlyniadau rydym eisiau gweithio tuag atynt.
Maent yn gosod y cyfeiriad ar gyfer ein taith i wella dros y pum mlynedd nesaf, fel y gallwn ni weithio tuag at gyflawni ein gweledigaeth: “Cefnogi’r bobl sy’n byw yma i gyrraedd eu llawn botensial, i lwyddo a chyrraedd safon uchel o les. Byddwn yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud i hyn ddigwydd, gyda phwyslais ar ymddygiadau a gwerthoedd cryf.