Mynychodd dros 50 o fusnesau gyfarfod cyntaf y Fforwm Cyflawni Di-garbon a gynhaliwyd yn Nhŵr Rhydfudr yn ddiweddar.
Cafwyd cyflwyniadau gan Rwydwaith Sero Net Gogledd Cymru, Brother Industries, Bloci, Platts Agriculture, Pathway to CZ a Lite Green.
Roedd y testunau’n cynnwys gweithgynhyrchu cynaliadwy, llwybr tuag at fod yn ddi-garbon a gwrthbwyso carbon mewn modd moesegol ac y gellir ei archwilio.
Roedd y digwyddiad yn lansio Fforwm Cyflawni Di-Garbon Wrecsam. Nod y Fforwm yw rhannu gwybodaeth ar arferion gorau, rhoi llwyfan ar gyfer trafodaethau ar destunau megis storio carbon, economi gylchol, sefydlu “timoedd gwyrdd” o fewn y gweithlu, yn ogystal â chynorthwyo busnesau i gefnogi ei gilydd i sicrhau ein bod ni oll yn gweithio tuag at ddyfodol mwy gwyrdd a glân.
Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad, “Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog wedi’i drefnu gan dîm cefnogi busnes Cyngor Wrecsam.
“Mae’r tîm yn arwain y ffordd ar draws awdurdodau Gogledd Cymru i drefnu a hwyluso digwyddiadau o’r fath er mwyn amlygu a chydlynu busnesau lleol o fewn y fwrdeistref sirol i gydweithio a rhannu arferion gorau i helpu mynd i’r afael â’r materion a helpu lleihau carbon a chyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon.
“Roedd cyflwyniadau defnyddiol iawn a gafodd dderbyniad da gan y mynychwyr ac adborth cadarnhaol ar ôl y digwyddiad.”
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd, “Er ein bod yn symud ymlaen gyda’r agenda datgarboneiddio yma yn y Cyngor, mae newid hinsawdd yn fater byd-eang ac mae’n galonogol gweld busnesau lleol yn gwneud eu rhan i fod yn ddi-garbon.”
Os hoffai eich busnes gymryd rhan, anfonwch e-bost at y Tîm Busnes a Buddsoddi i gael rhagor o wybodaeth – business@wrexham.gov.uk
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD