Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad Cyflawni Di-garbon – Dros 50 o fusnesau yn mynychu’r cyfarfod cyntaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Digwyddiad Cyflawni Di-garbon – Dros 50 o fusnesau yn mynychu’r cyfarfod cyntaf
Busnes ac addysgY cyngor

Digwyddiad Cyflawni Di-garbon – Dros 50 o fusnesau yn mynychu’r cyfarfod cyntaf

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 3:22 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Achieving carbon zero event in Wrexham
RHANNU

Mynychodd dros 50 o fusnesau gyfarfod cyntaf y Fforwm Cyflawni Di-garbon a gynhaliwyd yn Nhŵr Rhydfudr yn ddiweddar.

Cafwyd cyflwyniadau gan Rwydwaith Sero Net Gogledd Cymru, Brother Industries, Bloci, Platts Agriculture, Pathway to CZ a Lite Green.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Roedd y testunau’n cynnwys gweithgynhyrchu cynaliadwy, llwybr tuag at fod yn ddi-garbon a gwrthbwyso carbon mewn modd moesegol ac y gellir ei archwilio.

Roedd y digwyddiad yn lansio Fforwm Cyflawni Di-Garbon Wrecsam. Nod y Fforwm yw rhannu gwybodaeth ar arferion gorau, rhoi llwyfan ar gyfer trafodaethau ar destunau megis storio carbon, economi gylchol, sefydlu “timoedd gwyrdd” o fewn y gweithlu, yn ogystal â chynorthwyo busnesau i gefnogi ei gilydd i sicrhau ein bod ni oll yn gweithio tuag at ddyfodol mwy gwyrdd a glân.

Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad, “Roedd hwn yn ddigwyddiad ardderchog wedi’i drefnu gan dîm cefnogi busnes Cyngor Wrecsam.

“Mae’r tîm yn arwain y ffordd ar draws awdurdodau Gogledd Cymru i drefnu a hwyluso digwyddiadau o’r fath er mwyn amlygu a chydlynu busnesau lleol o fewn y fwrdeistref sirol i gydweithio a rhannu arferion gorau i helpu mynd i’r afael â’r materion a helpu lleihau carbon a chyflawni’r nod o fod yn ddi-garbon.

“Roedd cyflwyniadau defnyddiol iawn a gafodd dderbyniad da gan y mynychwyr ac adborth cadarnhaol ar ôl y digwyddiad.”

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd, “Er ein bod yn symud ymlaen gyda’r agenda datgarboneiddio yma yn y Cyngor, mae newid hinsawdd yn fater byd-eang ac mae’n galonogol gweld busnesau lleol yn gwneud eu rhan i fod yn ddi-garbon.”

Os hoffai eich busnes gymryd rhan, anfonwch e-bost at y Tîm Busnes a Buddsoddi i gael rhagor o wybodaeth – business@wrexham.gov.uk

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Newbridge B5605 Newbridge Road – Symud i benodi contractwr
Erthygl nesaf Ukraine Goleuo Neuadd y Dref yn felyn a glas i nodi’r ymosodiad ar Wcráin

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English