Yn ddiweddar rydym wedi derbyn grant o £74,281 gan Gronfa Gymorth i Reoli Ansawdd Aer Lleol, Llywodraeth Cymru er mwyn monitro ansawdd aer yn Wrecsam mewn modd arloesol a chynaliadwy.
Nod y prosiect yw sefydlu rhwydwaith o 10 monitor a fydd yn edrych ar Ddeunydd Gronynnol, Sylffwr Deuocsid a Nitrogen Deuocsid ynghyd â Sŵn Amgylcheddol a fydd yn cefnogi ein gwaith parhaus i ddefnyddio technolegau i wella ansawdd aer a/neu leihau amlygiad at ronynnau.
Yn flaenorol mae offer monitro drud wedi cael ei ddefnyddio i fonitro ansawdd aer yn fanwl, ond dim ond un lleoliad monitro sydd gennym, sydd yr un maint â chynhwysydd storio ar gyfer llongau. Mae dewisiadau eraill yr ydym yn eu defnyddio yn cynnwys tiwbiau tryledu aer rhatach, ond nid ydynt yn rhoi data digon manwl a gellir ond eu defnyddio i ddadansoddi tueddiadau ar lefelau llygryddion mewn amgylcheddau trefol. Mae’r monitorau newydd yn gallu cael eu gosod yn hawdd, gyda chyflenwad pŵer bach iawn tebyg i olau stryd, ac yn rhoi gwybodaeth gywir mewn amser real bob awr.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda’r Cynllun Trefi Clyfar, a fydd yn arwain at ddata ansawdd aer amser real ar gael i’r cyhoedd, a fydd yna’n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am deithio llesol, llwybrau teithio ac ati. Bydd gwybodaeth o’r fath hefyd yn ddefnyddiol i Adrannau’r Cyngor o ran mentrau iechyd y cyhoedd, addysg testunau cwricwlwm a chynllunwyr, fel dull atal er mwyn mynd i’r afael â materion yn y dyfodol neu ddiogelu ein mannau gwyrdd agored ymhellach.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Yn ganolog i nifer o bolisïau Llywodraeth Cymru a’r Cyngor, mae iechyd pobl, un ai trwy economi ffyniannus sy’n galluogi ansawdd bywyd gwell neu trwy amgylchedd sy’n hyrwyddo lles ac iechyd corfforol a meddyliol. Gobeithir y bydd darparu data ansawdd aer mewn amser real ar ein gwefan yn galluogi’r cyhoedd i wneud penderfyniadau gwybodus o ran eu gweithgareddau, ac y bydd yn gweithredu fel offeryn addysgol a’n helpu ni i wneud penderfyniadau gwybodus o ran ein gweithgareddau.”
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar ansawdd aer ar www.airquality.gov.wales neu ar wefan y Cyngor ar Ansawdd Aer | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae * LoRaWAN yn acronym ar gyfer dull o drosglwyddo symiau bychain o ddata dros donfeddi radio o rwydwaith o synwyryddion o bell i ganolbwynt casglu. Mae mantais o fod â phŵer isel, pellter hir, capasiti uchel (o ran y nifer o synwyryddion y gall y canolbwynt dderbyn data ohonynt) a throsglwyddiad data diogel.
Mae’r Cyngor yn buddsoddi mewn rhwydwaith o byrth LoRaWAN i sefydlu rhwydwaith ardal eang pŵer isel ar draws y ddinas a’r ystâd ddiwydiannol.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Partneriaeth newydd wedi’i chytuno ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.