Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cydnabod y defnydd o ddyfeisiau RITA i gefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cydnabod y defnydd o ddyfeisiau RITA i gefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia
Y cyngorPobl a lle

Cydnabod y defnydd o ddyfeisiau RITA i gefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 30, 2024 10:19 am
Rhannu
Darllen 5 funud
RITA Project Team highly commended by
RHANNU

Ar ddechrau’r flwyddyn roedd yn fraint a hanner cael ein cydnabod yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2024 yng Nghaerdydd am ein defnydd o ddyfeisiau Gweithgareddau Therapi Hel Atgofion Rhyngweithiol (RITA) i gefnogi pobl gyda dementia.

Cynnwys
  • Beth yw’r ddyfais RITA?
  • Beic Google Dementia
  • “Dangos ein hymroddiad i gefnogi pobl gyda dementia”
  • Defnyddio cefnogaeth ddigidol i gefnogi dementia

Cynhaliwyd y seremoni ar ddydd Iau, 25 Ebrill yng ngwesty Mercure Cardiff Holland House gyda chynrychiolwyr o Gyngor Wrecsam a My Improvement Network yn bresennol. 

Er ein bod wedi colli allan ar y wobr, cafodd ein gwaith o gydweithio gyda My Improvement Network ei ganmol yn fawr a’r ffaith ein bod ‘ni’n gweithio i egwyddorion arferion yn seiliedig ar gryfderau’. Dyma ni’n cael ein canmol am y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn Wrecsam i sicrhau bod yr unigolyn sy’n derbyn gofal yn rhan flaenllaw o’r ddarpariaeth trwy ddefnyddio RITA fel galluogwr digidol.

Beth yw’r ddyfais RITA?

Mae’n dod ar ffurf sgrîn cyffwrdd neu lechen hawdd ei ddefnyddio i roi adloniant a therapi i helpu cleifion i gofio a rhannu pethau o’u gorffennol yn defnyddio cerddoriaeth a gwylio adroddiadau newyddion o ddigwyddiadau hanesyddol.  Mae nodweddion eraill yn cynnwys ffilmiau, carioci a chwarae gemau.

Gellir creu ffeil bersonol gyda holl anghenion yr unigolyn a’r hyn y mae’n ei hoffi – fel ei hoff gerddoriaeth a ffilmiau.  Mae hyn yn creu ffordd fwy personol ac effeithiol i ofalu am yr unigolyn hwnnw yn unol â’i ofynion meddygol a’i ddiddordebau personol, a allai fod yn ffactor ymlaciol i leihau pryder a straen.

Cyflwynwyd dyfeisiau RITA i ddechrau mewn 20 o’n cartrefi gofal ym Mawrth 2021. Ym mis Ebrill 2022 cyflwynwyd rhagor o ddyfeisiau RITA i 13 cartref gofal arall gan gynnwys fersiwn i gefnogi preswylwyr sy’n methu dod allan o’u gwlâu.

Llynedd lansiwyd ein menter i hyrwyddo’r defnydd o RITA Synergy sy’n galluogi cartrefi gofal i allforio proffiliau personol o ddyfeisiau RITA i ddonglau RITA Synergy Mae’n gallu darparu parhad gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn trwy’r llwybr i’r ysbyty, yn ystod cyfnod yn yr ysbyty, ac wrth ddod allan o’r ysbyty.

Beic Google Dementia

Yn ddiweddar rydym wedi bod yn treialu’r defnydd o feic Google Dementia a gafodd ei roi i ni gan Ddigidol Cymru. Mae’r beic yn defnyddio sgrin fawr sy’n galluogi defnyddwyr i deithio o gwmpas gwahanol ardaloedd dros y we sy’n teimlo fel eu bod nhw’n beicio go iawn.

Mae’r beic wedi cael ei ddefnyddio yn y Ganolfan Les ac wedi annog y bobl sydd wedi cymryd rhan i arwain ar sgyrsiau drwy drafod gwahanol ddiddordebau.

Cydnabod y defnydd o ddyfeisiau RITA i gefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia

Beicio, pysgota, teithio ar gwch camlas, siopau sglodion, gwyliau lan y môr, hoff ddiodydd, a hoff brydau bwyd oedd rhai o’r pynciau a drafodwyd yn un o’r sesiynau.

Buddion eraill a welwyd oedd yr effeithiau corfforol o ddefnyddio’r coesau a gorfod canolbwyntio am gyfnod hir o amser.

“Dangos ein hymroddiad i gefnogi pobl gyda dementia”

Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion:  “Rydym yn gefnogwyr mawr o ddefnyddio galluogwyr digidol fel dyfeisiau RITA i helpu gwella iechyd a lles teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Rydym wedi gweld cymaint o fuddion gwahanol ac mae’n helpu teuluoedd a’u gofalwyr i gyfathrebu’n well gyda’r unigolyn.  Mae derbyn canmoliaeth fawr gan Wobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi pobl gyda dementia.”

Defnyddio cefnogaeth ddigidol i gefnogi dementia

Gall sgiliau digidol a chymorth yn y gymuned wella iechyd a lles teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.  Edrychwch ar y wefan ganlynol i ddysgu mwy am sut i ddefnyddio dyfeisiau digidol er mwyn helpu pobl gyda dementia  gwefan Good Things Foundation.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Tîm Chwarae ac Ieuenctid Wrecsam eu strafagansa Gwaith Ieuenctid yng Nghanolfan Ieuenctid Rhiwabon i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024. – Newyddion Cyngor Wrecsam

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

TAGGED:dementiaGofal Cymdeithasolsocial care
Rhannu
Erthygl flaenorol Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam! Data Newydd yn Amlygu’r Twf Mwyaf Erioed yn Sector Twristiaeth Wrecsam!
Erthygl nesaf Air Quality Dros £74,000 wedi’i wobrwyo i fonitro ansawdd aer yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English