Mae tenant y Cyngor wedi canmol y gwaith gwella sydd wedi’i wneud i’w eiddo.
Cafodd Mr K Jones o Johnstown gegin ac ystafell ymolchi newydd fel rhan o brosiect gwelliannau tai dwys Cyngor Wrecsam.
Mae’r gwelliannau yn cael eu gwneud i sicrhau bod cartrefi yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.
Mae tenantiaid y Cyngor ym mhob rhan o Johnstown wedi cael cynnig ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn diweddar. Mae’r gwaith yma yn cael ei wneud gan gontractwr y Cyngor, Novus Property Solutions.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Tŷ “yn addas ar gyfer y dyfodol”
Meddai Mr Jones: “Rwyf wrth fy modd gyda’r gegin a’r ystafell ymolchi newydd. Cafodd wal ei tharo drwodd i wneud lle ar gyfer y gegin newydd, felly roedd angen gwneud llawer iawn o waith, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod y contractwyr yn gwrtais a thaclus bob amser.
“Roeddent bob amser yn glanhau ar ôl eu hunain ac maent wedi gwneud gwaith da iawn. Pe baech yn edrych ar y gegin newydd o’i gymharu â’r hen un, fyddech chi ddim yn ei adnabod! Mae’n edrych yn wych rŵan.
“Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf hefyd wedi cael system wresogi newydd, mae’r gwaith trydan wedi’i ddiweddaru ac rwyf wedi cael inswleiddio’r waliau allanol felly mae llawer iawn o’r tŷ yn edrych yn newydd sbon rŵan. Mae hefyd yn fy nghysuro i wybod bod y tŷ yn addas ar gyfer y dyfodol.”
Mae gwelliannau’n gwneud “gwahaniaeth enfawr”
Meddai Jeremy Anderson, Rheolwr Contractau Novus Property Solutions: “Rydym yn falch o gael gweithio ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam ar eu prosiect amnewid ceginau ac ystafelloedd ymolchi helaeth.
“Johnstown yw un o’r nifer o ardaloedd o amgylch Wrecsam lle rydym wedi gwneud y gwelliannau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob eiddo rydym yn ymweld ag o yn cael gwaith o’r safon uchaf ac rydym wedi bod wrth ein bodd â’r ymateb cadarnhaol rydym wedi’i gael gan denantiaid lleol.
Meddai’r Aelod Lleol dros Johnstown, y Cyng David A Bithell: “Rwyf wrth fy modd bod y rhaglen ceginau ac ystafelloedd ymolchi yn cael ei chyflwyno yn Johnstown ac mae’n galonogol gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei gael ar ein tenantiaid. Mae eiddo fel un Mr Jones wedi’u trawsnewid y tu mewn a’r tu allan ac wedi’u gwella i safon fodern uchel iawn.
“Cynhaliodd y contractwyr, Novus, ddiwrnod hwyl i’r teulu gwpl o wythnosau yn ôl hefyd, felly mae’n dda eu gweld yn ymgysylltu â’r gymuned leol.
“Mae’r inswleiddio waliau allanol hefyd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r eiddo nad ydynt yn draddodiadol yma. Mae’n gwella edrychiad y cartrefi o’r tu allan a bydd o bosibl yn helpu i arbed arian ar filiau gwresogi ac ymestyn oes yr adeiladau trwy ddiogelu eu strwythurau.
“Bydd y tai nad ydynt yn draddodiadol yn ardal Heol Kenyon hefyd yn cael inswleiddio’r waliau allanol yn ddiweddarach eleni, felly mae hyn yn newyddion da pellach i’n tenantiaid yn Johnstown.”
Cyngor “ar y trywydd iawn” i gyrraedd y safon
Mae Cyngor Wrecsam yn buddsoddi £56.4m ar welliannau tai yn 2016/17 wrth i ni barhau â’r gwaith i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae hyn yn cynnwys Lwfans Atgyweiriadau Mawr £7.5m y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i’w helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.
Mae miloedd o eiddo eisoes wedi cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, ac mae gwaith mewnol ac allanol arall hefyd yn cael ei wneud os oes angen.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cyng David Griffiths: “Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd nod Safon Ansawdd Tai Cymru sy’n llwyddiant aruthrol. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi ein bod wedi gwneud ymdrech arbennig gyda dyluniad ac ansawdd y gwelliannau rydym yn eu gwneud.
“Gall tenantiaid ddewis o amryw o liwiau a chynlluniau ar gyfer eu ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, a gallant drafod eu dewisiadau gyda’n timau i wneud yn siŵr bod y cynnyrch terfynol yn bodloni eu disgwyliadau.
“Rydym hefyd wedi ychwanegu nodweddion dylunio ychwanegol at yr inswleiddio waliau allanol i ychwanegu apêl gweledol a sicrhau eu bod yn edrych y gorau posibl pan fydd y gwaith wedi’i orffen.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwella tai sy’n cael ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI