Pan mae’r tywydd yn braf mae llawer ohonom yn hoff iawn o wahodd teulu a ffrindiau draw a choginio bwyd ar y barbeciw. Amcangyfrifir y cafwyd tua 135 miliwn o farbeciws yn y Deyrnas Gyfunol y llynedd, a bydd Wrecsam wedi cyfrannu’i siâr at y cyfanswm.
Mae’n dda ein bod yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, o ran ein hiechyd a lles, ond a ydym ni’n rhoi digon o sylw i ailgylchu? Efallai ddim…
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Pan mae’n braf a’r haul yn tywynnu, mae llawer ohonom yn Wrecsam yn hoff o goginio a bwyta ein bwyd yn yr awyr agored. Er ein bod ni’n ei goginio a’i fwyta y tu allan, yr un yw’r drefn o ran y ffordd yr ydym yn cael gwared ar y bwyd a’r deunydd pecynnu. Rydym yn gofyn i bobl gadw mewn cof fod modd ailgylchu llawer iawn o bethau.”
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Sbarion
Mae modd ailgylchu unrhyw fwyd heb ei fwyta. Mae’n syniad da i fynd â’ch cadi bwyd tu allan a rhoi unrhyw esgyrn a sbarion ynddo wrth basio. Mae’n gwneud hi’n llawer haws glanhau wedyn… ond cofiwch gau’r caead i rwystro unrhyw bryfaid.
Hefyd, ydych chi’n defnyddio gweyll pren mewn cibabs? Hwyrach nad oeddech chi’n gwybod fod modd ailgylchu’r rhain yn eich bocs gwastraff bwyd, ynghyd ag unrhyw gyllyll a ffyrc pren!
Hambyrddau cig
P’un a ydych chi’n coginio i ddau o bobl neu ugain ohonynt, mae barbeciws fel arfer yn golygu llond y lle o hambyrddau cig plastig, ac wrth lwc fe allwch eu hailgylchu wrth garreg y drws yn Wrecsam!
Gellir ailgylchu hambyrddau cig plastig gyda phlastig eraill ar ymyl y palmant yn eich bocs gwyrdd/ bocs canol.. ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi’u golchi cyn eu hailgylchu #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/nmqbpfHfRf
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) August 10, 2019
Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gig ar ôl arnynt cyn eu hailgylchu… mae hyn yn bwysig iawn. Ni fyddwch ond dau funud yn eu rinsio neu’u rhoi yn y peiriant golchi llestri i’w glanhau – mae’n golygu y gellir ei ailgychu’n rhywbeth llawer iawn gwell yn y pen draw.
Ceisiwch beidio â defnyddio barbeciws untro
Gallwn weld pam bod ‘rhain yn apelio i rai, ond maent yn cyfrannu’n helaeth i’r diwylliant gwastraffus sy’n bygwth ein hamgylchedd.
Mae defnyddio barbeciw a ellir ei ailddefnyddio llawer rhatach yn yr hirdymor. Mae barbeciw’n medru para am flynyddoedd, a phan ddaw’r amser i ffarwelio â hen un, ewch i’w ailgylchu fel metel sgrap yn un o’r tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam!
Os ydych chi’n defnyddio barbeciw untro, cofiwch wneud yn siŵr ei fod wedi oeri’n iawn cyn ichi ei roi yn y bin.
Tanciau nwy
Mae modd defnyddio’r rhain dro ar ôl tro, ond os bydd arnoch eisiau cael gwared â thanc nwy, dewch i un o’n tair canolfan ailgylchu. Peidiwch byth â rhoi un yn eich bin du, gan y gallai achosi perygl o dân yn ein canolfan ailgylchu.
Diolch fel bob amser am ailgylchu ac am wneud eich rhan dros Wrecsam 🙂
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION