Bydd cynghorwyr o bob rhan o Gymru yn siarad ag ymgyrchwyr ifanc am yr effaith y gall llywodraeth leol ei gael ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc. Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw ddydd Iau 20 Ionawr am 6pm ond bydd hefyd ar gael ar ôl y digwyddiad i’w hyrwyddo ar eich sianeli yn https://docsend.com/view/jbyqx4mdew86272a (neu https://youtu.be/2OmFCP7Lypc)
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Nod y sesiwn hon yw codi ymwybyddiaeth o’r materion y mae llywodraethau’n ymdrin â hwy ar lefel leol a thynnu sylw at sut y gall pobl ifanc ddefnyddio eu barn i wneud newid cadarnhaol yng Nghymru.
Mae ‘The Politics Project’ wedi cadarnhau y bydd y cynghorwyr canlynol ar y panel:
• Rhys Taylor – Democratiaid Rhyddfrydol
• Dhanisha Patel – Llafur
• Ross Penhale-Thomas – Annibynnol
• Nia Wyn Jeffries – Plaid Cymru
• Tanya Skinner – Annibynnol
Yr ymgyrchwyr ifanc sy’n cymryd rhan yw Heledd Roberts, Poppy Stowell-Evans, Ieuan Cooke ac Amber Davies.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL