Mae’n gaddo bod yn benwythnos gwych yma yng nghanol dinas Wrecsam!
Ddydd Sadwrn a dydd Sul yma, bydd Gwledd Wrecsam yn gweld Maes Parcio’r Byd Dŵr yn cael ei drawsnewid yn fwrlwm o stondinau bwyd gwych, arddangosiadau, adloniant byw a gweithgareddau i’r teulu.
Ddydd Sul bydd Llwyn Isaf yn cynnal rhai bandiau gwych, gan gynnwys ffefrynnau lleol The Royston Club, o 2pm-10pm i fynychu yr Out of Focus: Music Hub AM DDIM.
Gyda miloedd hefyd yn ddisgwyliedig ar y cae ras ddydd Sadwrn ar gyfer gêm gartref Wrecsam yn erbyn Torquay, mae’n debygol o fod yn benwythnos prysur drwy’r amser.
I gefnogi’r holl ymwelwyr ychwanegol, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd parcio ym maes parcio aml-lawr Tŷ Pawb AM DDIM drwy’r penwythnos.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Dewisiadau parcio eraill
Bydd parcio am ddim hefyd ar ôl 11am ym mhob un o’r meysydd parcio canol dinas canlynol sy’n eiddo i’r Cyngor:
- Heol y Cilgant
- Y Llyfrgell
- Stryd y Farchnad
- Cilgant San Siôr
- De Cilgant San Siôr
- San Silyn
Bydd maes parcio Byd Dŵr ar gau i’r cyhoedd rhwng 23 a 25 Medi i gefnogi Gwledd Wrecsam.
Bydd maes parcio Neuadd y Dref ar gau ddydd Sadwrn 25 Medi ar gyfer y digwyddiad cerddorol ar Llwyn Isaf.
Mae Tŷ Pawb, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn gartref i dros 30 o fusnesau lleol annibynnol, gan gynnwys cwrt bwyd a bar gwych. Y penwythnos hwn hefyd yw’r cyfle olaf i weld eu harddangosfeydd hardd presennol, The Tailor’s Tale a Blanket Coverage felly peidiwch ag anghofio galw heibio a chael golwg tra byddwch yn y dref!
Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Hugh Jones: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi dathliadau’r penwythnos hwn i nodi llwyddiannau Wrecsam yn 2022. Mae hon wedi bod yn flwyddyn ryfeddol iawn gyda chymaint o gyflawniadau nodedig gan gynnwys cyrraedd rownd derfynol Dinas Caerdydd. Diwylliant 2025, Tŷ Pawb yn cyrraedd rownd derfynol Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf, ac wrth gwrs y wobr statws dinas. Bydd rhywbeth ar gyfer pob oed a diddordeb yn digwydd y penwythnos hwn felly dewch draw i fwynhau’r achlysur.”
Oriau Agor Maes Parcio Tŷ Pawb
Llun-Sadwrn
7am-10pm
Sul
7am-6pm
Ewch i wefan Tŷ Pawb am ragor o wybodaeth i ymwelwyr.
TANYSGRIFWYCH