Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parhau â chynlluniau i adfywio canol tref Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Parhau â chynlluniau i adfywio canol tref Wrecsam
Busnes ac addysgY cyngor

Parhau â chynlluniau i adfywio canol tref Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 26, 2021 8:32 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Shopping in Wrexham
RHANNU

Parhau â chynlluniau i adfywio canol tref Wrecsam yn cynnwys cyhoeddiadau am gyllid cychwynnol ac amserlenni yn rhan o Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru

Yn dilyn cyfarfod cadarnhaol iawn, mae gwaith Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig Wrecsam wedi cael ei gydnabod a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu y bydd gwaith yn parhau ar “Pwrpas Cyffredin”, a’i nod yw gweld adfywiad canol y dref trwy fuddsoddiad ac ymyrraeth wedi’i dargedu. Mae’r gwaith hefyd yn cefnogi datblygiad ehangach rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, ac mae Wrecsam yn cael ei ystyried yn un o nifer o drefi sy’n arwain wrth ddatblygu’r rhaglen.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Bu Ken Skates, AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Hanna Blythyn, AS, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cyfarfod ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard a chynrychiolwyr o’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig er mwyn trafod y cynlluniau at y dyfodol a sut y gall cydweithio olygu bod cynlluniau uchelgeisiol yn parhau i ddatblygu.

Mae’r gwaith cychwynnol yn cynnwys datblygu brand cryf a chychwyn ar ymgyrch farchnata ac ymgysylltu i gyd-fynd â’r cynlluniau uchelgeisiol a chymryd Wrecsam mewn i’r arena genedlaethol. Mae’r gwaith yma’n barod i’w ddechrau.

Mae gwerthusiad marchnad ar fin dechrau a fydd yn edrych ar safleoedd diangen allweddol yng nghanol y dref a sut y gall y sector cyhoeddus eu prynu a’u hailddefnyddio i greu ardaloedd sy’n barod i ddenu busnesau a buddsoddwyr newydd.

Mae Banc Datblygu Cymru yn rhan allweddol o’r bartneriaeth a bydd eu buddsoddiad yn y dyfodol yn allweddol i ddenu busnes newydd mewn i’r ardal trwy lansio cronfa entrepreneuraidd, y bwriad yw y bydd y gronfa hon ar gael yn y gwanwyn.

Rhagwelir y bydd cyfanswm y cyllid pan fydd y buddsoddiadau hyn wedi’u cwblhau a’u cyflwyno dros £500,000, a dyma’r cam cyntaf o weithredu 3 allan o 9 prosiect allweddol a amlinellir gan y Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig a’u cefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Llywodraeth Cymru. Rhagwelir y bydd buddsoddiad pellach yn dilyn ar gyfer y 3 phrosiect yma, e.e. prynu eiddo di-angen, yn ogystal â’r 6 phrosiect arall wrth iddynt gael eu datblygu.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard Arweinydd y Cyngor ac Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Mae’r cynlluniau yn cydnabod safle unigryw Wrecsam yng ngogledd Cymru ac ar draws y ffin mewn i ogledd-orllewin Lloegr, ac mae’n galonogol gweld cefnogaeth y Gweinidogion yn ystod cam yma o’r buddsoddiad cychwynnol.

“Hyd yn oed gyda’r holl gyfyngiadau a heriau yn sgil y pandemig, rydym mewn sefyllfa dda i ddenu buddsoddiad a hyder i ganol y dref, yn ogystal â’r holl fentrau eraill sydd eisoes wedi derbyn cyllid sylweddol er mwyn adfywio’r ardal. Fe hoffem ddiolch i’r Gweinidogion am gymryd yr amser i gwrdd â ni ac am eu hanogaeth ac ymrwymiadau i fuddsoddi, a’r Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig am barhau i fwrw ymlaen â’u cynlluniau cyffrous.’

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog Economi, Cludiant a Gogledd Cymru: “Mae’n braf gweld y datblygiadau cadarnhaol yma’n symud ymlaen yn Wrecsam. Fe fydd o fudd gwirioneddol i’r dref, ei phreswylwyr a’r rhai sy’n gweithio yma. Fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni fuddsoddi a gwneud y mwyaf o ganol ein trefi. Mae hyn yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir ar gyfer Wrecsam, ac mae’n cynnal y momentwm gwych ym mhroffil y dref sydd wedi gwella yn fyd-eang diolch i Ryan Reynolds a Rob McElhenney”.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn AS: “Mae adfywio canol tref Wrecsam yn enghraifft o sut rydym ni’n cefnogi ac yn diogelu dyfodol trefi Cymru trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi. Nid yn unig y bydd y prosiect hwn yn rhoi hwb i gynaliadwyedd, nifer yr ymwelwyr a thwf economaidd trwy greu swyddi, cartrefi a chyfleoedd busnes, ond fe fydd yn cael effaith cadarnhaol ar les y gymuned leol.

“Gyda’r ymagwedd o roi canol y dref yn gyntaf, gallwn gysylltu ein cymunedau’n well a sicrhau bod gan fwy o bobl fynediad i’n trefi. Rwy’n parhau’n ymroddedig i drawsnewid trefi fel Wrecsam mewn i asedau cymunedol lle mae pobl eisiau byw, gweithio a siopa.”

Bu cynnydd mewn gwaith diweddar ar gynigion mawr ar gyfer ardal Wrecsam, gyda phrosiect Porth Wrecsam yn cynnwys yr orsaf drenau a’r cae pêl-droed, cynlluniau i Amgueddfa Wrecsam fod yn gartref ar gyfer Amgueddfa Bêl-droed Cymru, cyllid Trawsnewid Trefi i ddatblygu a gwella marchnadoedd canol y dref, a £1.5 miliwn o gyllid treftadaeth er mwyn adfer a chadw nifer o adeiladau hanesyddol pwysig Wrecsam, a’u gwneud nhw’n ddeniadol i fusnesau ac unigolion lleol.

Fe sefydlwyd Grŵp Arweinyddiaeth Ddinesig Wrecsam yn 2018 mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae’n cynnwys Arweinwyr Dinesig o amrywiaeth o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol a busnesau yn Wrecsam sydd yn unedig ynglŷn â’r uchelgais i gefnogi Wrecsam i gyflawni ei botensial llawn, yn benodol trwy ganolbwyntio ar fuddsoddi yng nghanol y dref.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Road clean up Y diweddaraf am y llifogydd – gwaith adfer yn mynd rhagddo ar draws y fwrdeistref sirol
Erthygl nesaf Recycling Sut allwch chi wneud eich taith i’r ganolfan ailgylchu yn fwy cyflym, yn haws ac yn fwy diogel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English