Playing

Mae ein tîm Chwarae a Chymorth Ieuenctid wedi llunio Bwletin defnyddiol sydd â digonedd o syniadau, argymhellion a dolenni defnyddiol i gefnogi rhieni a theuluoedd er mwyn annog plant i barhau i chwarae yn y cartref.

Yn y rhifyn cyntaf, gallwch ddarganfod beth all eich plant ei wneud gyda ffon gan ddefnyddio eu dychymyg, ac mae yna amserlen ddefnyddiol o weithgareddau i’w gwneud dan do a thu allan i ddiddanu eich plant, yn cynnwys ymladdfa glustogau ac adeiladu caerau.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

“Mae chwarae yn gwneud i blant deimlo’n dda”

Dywedodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Mae chwarae yn gwneud i blant deimlo’n dda ac mae’n hanfodol ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddyliol. Mae’n hanfodol fod plant yn gallu chwarae yn ystod y cyfnod yma a bod dysgu yn cael ei gydbwyso â digonedd o gyfleoedd i chwarae.

“Treuliwch amser yn chwarae gyda’ch plant. Fe fyddant yn ei werthfawrogi a bydd yn helpu iddynt ymdopi â’r anawsterau mae pawb ohonom yn ei wynebu wrth orfod aros gartref”.

Mae Chwarae Cymru wedi llunio taflenni gwybodaeth a syniadau gwych yn arbennig i deuluoedd, ac maent ar gael yma:

Plentyndod Chwareus
Chwarae Cymru
Twitter: @chwaraecymru
Facebook: chwaraecymru

There’s also the Young Wrexham website which young people may find useful. It’s full of useful advice for all ages www.youngwrexham.co.uk

Gallwch ddarllen y bwletin yma.

If you want more information about playing with your children by emailing play@wrexham.gov.uk or by telephoning them on 01978 298361

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19