Ymunwch â staff yr amgylchedd ar gyfer Parti Pwmpen i ddathlu blwyddyn ers i gastanwydden Wrecsam ennill Coeden y Flwyddyn 2023
Mae Castanwydden Wrecsam dros 480 oed ac yn sefyll yn dal ym Mharc Acton. Mae coed hynafol fel y gastanwydden hon yn cefnogi amrywiaeth o fioamrywiaeth yn ogystal â thynnu carbon a helpu i gynnal tymheredd ardaloedd trefol – felly mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n gwarchod ac yn cefnogi’r arwyr byw yma.
Bydd y Parti Pwmpen yn cynnwys:
- Addurno pwmpen yn defnyddio ein cyflenwad o ddeunyddiau crefft i addurno eich pwmpen yn barod ar gyfer Calan Gaeaf a chymryd rhan yn ein crefftau hydrefol a dychrynllyd (dewch â’ch pwmpen eich hun)
- Gwybodaeth a chrefftau i ddysgu sut i gefnogi bywyd gwyllt yn ystod y gaeaf
- Llwybr hanes sy’n mynd â chi o gwmpas y parc i ddysgu am y coed a’r hanes, gyda gwobrau ar y diwedd
Mae rhestr Coed y Flwyddyn y DU 2024 wedi’i chyhoeddi ac fe allwch chi bleidleisio dros eich hoff goeden yma.
Ariennir y digwyddiad hwn gan Gronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.