Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Partneriaeth newydd wedi’i chytuno ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Partneriaeth newydd wedi’i chytuno ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan
Y cyngorDatgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Partneriaeth newydd wedi’i chytuno ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan

Diweddarwyd diwethaf: 2024/07/25 at 10:21 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Electric vehicle charging
RHANNU

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi llofnodi partneriaeth gyda Costelloes EV Group i ddarparu ar gyfer gweithredu, cynnal a chadw a gosod mannau gwefru cerbydau trydan (EVCP) ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor.

Cynnwys
“Mwy o fannau gwefru o safon uchel, wedi’u cynnal a’u cadw’n dda”“Partneriaeth i ddarparu datrysiadau datgarboneiddio ar draws y sir”

Mae’n bartneriaeth hirdymor wedi’i hariannu’n llawn a bydd yn caniatáu i ni ehangu ein rhwydwaith o declynnau gwefru ar draws y sir am gost is a gwella ein gwasanaeth.

Mae Costelloes yn seiliedig yn Ellesmere Port ac maen nhw’n arbenigwyr yn y diwydiant gan gynnig datrysiad llawn ar gyfer systemau paneli solar, storio batris a gwefru cerbydau trydan. Mae’r cytundeb gyda nhw’n caniatáu i ni:

  • ehangu ein rhwydwaith presennol o fannau gwefru cerbydau trydan
  • cyflwyno mannau gwefru cerbydau trydan yn gyflymach ac am gost is
  • gwella gwasanaeth a phrofiad i gwsmeriaid
  • darparu gwasanaeth effeithiol a phroffesiynol

Daw’r cytundeb fel rhan o’n gwaith i ddatgarboneiddio cludiant ar draws y fwrdeistref sirol, gan ddefnyddio cefnogaeth o gyfleoedd ariannu lle maent ar gael.

Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn ystyried darparu mwy na 45 o unedau EVCP llai a dau ganolbwynt symudedd EVCP, ar ôl cael cyfraniad o £758,654 o Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru 24/25.

“Mwy o fannau gwefru o safon uchel, wedi’u cynnal a’u cadw’n dda”

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr yr Hinsawdd: “Rydym wrth ein boddau i fod yn llofnodi’r bartneriaeth arloesol gyda Costelloes EV Group, i’n helpu i ymestyn a gwella ein rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan. Rydym am gefnogi ein preswylwyr i symud at ddefnyddio cerbydau trydan trwy ddarparu mwy o fannau gwefru o safon uchel, wedi’u cynnal a’u cadw’n dda ar draws Wrecsam, a bydd sicrhau cytundeb gydag arbenigwr diwydiant yn ein helpu i gyflawni hynny.” 

“Partneriaeth i ddarparu datrysiadau datgarboneiddio ar draws y sir”

Meddai David Costelloe, Rheolwr Gyfarwyddwr Costelloes EV Group: “Rydym ni’n hapus iawn i gael ein penodi i ddarparu isadeiledd gwefru cerbydau trydan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan osod a gweithredu amrywiaeth lawn o fannau gwefru, fel cam cyntaf yn ein partneriaeth i ddarparu datrysiadau datgarboneiddio ar draws y sir. 

“Mae gan ein tîm fwy na 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant trydanol, ac maen nhw’n ymroddedig i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau a thechnoleg newydd. Rydym ni’n falch iawn o ddarparu gwasanaeth a chefnogaeth arbennig i’n cwsmeriaid, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu â’r lefel uchaf o broffesiynoldeb ac arbenigedd.”

Gallwch ddysgu mwy am Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru ar eu gwefan.

Standiau newydd i feics a sgwteri yng Nghefn Mawr – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED: Datgarboneiddio, decarbonisation
Rhannu
Erthygl flaenorol dwr Arbed dŵr yng nghanol y ddinas
Erthygl nesaf Bwletin arbed ynni 5: Amnewid sbotoleuadau halogen gydag LEDs Bwletin arbed ynni 5: Amnewid sbotoleuadau halogen gydag LEDs

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English