Diolch i Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru rydym wedi gallu gosod standiau i feics a sgwteri y tu allan i lyfrgell Cefn Mawr. Maent eisoes yn boblogaidd gyda phobl sy’n dewis teithiau llesol i’r llyfrgell.
Mae gwneud hynny’n arbennig o fuddiol mewn amryw ffyrdd, gan gynnwys:
- Lleihau tagfeydd traffig
- Glanhau’r aer ac yn mynd i’r afael â newid hinsawdd
- Gwella ein hiechyd a hybu’r economi
- Ein cysylltu ni â’r pethau sy’n bwysig.
Felly’r tro nesaf yr ewch chi i’r llyfrgell neu’r cyffiniau, beth am ddod ar gefn beic neu sgwter a defnyddio’r standiau? Does dim rhaid ichi fod yn mynd i’r llyfrgell i’w defnyddio nhw – mae croeso i bawb.
Gorffennaf di-blastig – byddwch yn rhan o’r ateb – Newyddion Cyngor Wrecsam