Bydd Wrecsam yn croesawu criw o HMS Dragon am y tro cyntaf ers i’r ddinas gael ei chysylltu’n swyddogol gyda llong ryfel y Llynges Frenhinol.
Hon yw’r llong gyntaf ers yr Ail Ryfel Byd i gael ei chysylltu â Wrecsam, ac fe gafodd y bartneriaeth ei selio mewn seremoni yn Portsmouth fis diwethaf.
Ar 6 Mehefin bydd rhywfaint o’r criw yn ymweld â’r ddinas am y tro cyntaf i gofio 80 mlynedd ers D-Day – pan laniodd lluoedd y Cynghreiriaid yn Normandi a dechrau rhyddhau gorllewin Ewrop.
Bydd y criw yn mynd i ddigwyddiad croeso yn Neuadd y Dref, cyn cymryd rhan yn y gwasanaeth coffa yn Eglwys San Silyn a’r orymdaith drwy ganol y ddinas, a gosod torch ym Modhyfryd.
Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam: “Mae ein cysylltiad â HMS Dragon yn anrhydedd mawr ac rydym ni’n falch iawn o groesawu rhywfaint o’i chriw i’r ddinas am y tro cyntaf.
“Bydd eu hymweliad yn fwy teimladwy gan y ffaith y byddan nhw’n ymweld ar 6 Mehefin pan fyddwn yn cofio 80 mlynedd ers D-Day; ac rydw i’n gobeithio y bydd aelodau o’r cyhoedd yn dod allan yn llu i wylio’r orymdaith drwy ganol y ddinas.
“HMS Dragon yw’r llong gyntaf i gael ei chysylltu â Wrecsam ers yr Ail Ryfel Byd ac rydw i’n siŵr y bydd hyn yn ddechrau ar bartneriaeth wych. Rydw i’n edrych ymlaen at groesawu’r criw i’n bwrdeistref sirol.”
Mae’r llong yn un o longau distryw amddiffyn yr awyr uwch Math 45 y Llynges Frenhinol, ac yn adnabyddadwy iawn gyda’r dreigiau coch ar ei blaen.
Meddai’r Cadlywydd Iain Giffin, Pennaeth Milwrol HMS Dragon: “Rydw i’n falch iawn bod HMS Dragon yn gallu cefnogi ein dinas gyswllt newydd, Wrecsam.
“Mae’n fraint ymweld â’r ddinas ac mae’n anrhydedd i forwyr HMS Dragon gynrychioli’r Llynges Frenhinol yn ystod y gwasanaeth coffa D-Day i gofio digwyddiad pwysig iawn yn hanes morwrol ein gwlad.
“Rydym ni’n sefyll ochr yn ochr â phobl Wrecsam gyda balchder, gan feithrin cysylltiadau newydd a myfyrio ar y brawdgarwch a’r dewrder a welwyd ar draethau Normandi 80 o flynyddoedd yn ôl.”