Er mwyn atal lledaeniad coronafeirws a sicrhau fod gyrwyr a chwsmeriaid yn ddiogel tra byddant mewn cerbydau, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi gyrwyr Tacsi a cherbydau hurio preifat gyda phecynnau Cyfarpar Diogelu Personol am ddim.
Mae’r broses i wneud cais ar agor tan 5 Mawrth, 2021 a chyfyngir y pecynnau i un i bob unigolyn. Mae pob pecyn werth £73.50 a chaiff ei ddanfon am ddim i gyfeiriad o ddewis y gyrrwr.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Gall gyrwyr cymwys wneud cais am becyn drwy glicio yma a llenwi’r ffurflen.
Wrth wneud cais bydd angen i chi roi eich manylion personol gan gynnwys rhif trwydded cerbyd hacni/ cerbydau hurio preifat, eich awdurdod trwyddedu, eich manylion cyswllt ac unrhyw gyfarwyddiadau danfon.
Beth sydd yn y pecyn?
Mae’r pecyn yn cynnwys gwerth 6 mis o Gyfarpar Diogelu Personol a deunyddiau glanhau, sy’n cynnwys:
• 5 litr o ddiheintydd pob pwrpas
• 1 botel wasgu
• 6 x sebon hylendid dwylo (500ml yr un)
• 2 x pecyn o gadachau (50 ym mhob pecyn)
• 2 x gorchudd wyneb gradd feddygol, addas i’w olchi
• 1 x bocs o 50 gorchudd wyneb untro
• 6 x pecyn o gadachau Detox (80 ym mhob pecyn)
I wneud cais am becyn cliciwch yma, ond cofiwch fod y broses o wneud cais yn cau ar ôl 5 Mawrth.
Am fwy o wybodaeth ewch i: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-dacsis-cherbydau-hurio-preifat
CANFOD Y FFEITHIAU