Ni fu’n rhaid i gwpl oedrannus dalu £28,000 am waith diangen ar ôl i swyddogion Gwarchod y Cyhoedd ymyrryd.
O ganlyniad, cafodd Lawrence Newberry ei erlyn a bu iddo bledio’n euog i dair trosedd dan gyfreithiau Diogelu’r Defnyddiwr ar ôl iddo geisio ail-doi cartref cwpl oedrannus yn Wrecsam.
Ym mis Gorffennaf 2017 bu iddo siarad â deiliad tŷ 80 mlwydd oed a chynnig gwneud mân atgyweiriadau i do ei gartref. Ar ôl derbyn mynediad i’r eiddo buan iawn aeth yr atgyweiriadau bychain yn waith mawr, a oedd yn golygu aildoi’r tŷ cyfan am gost o £28,000.
Dan bwysau oherwydd yr ofn y byddai’r to presennol yn dymchwel, bu i’r deiliad tŷ gytuno â’r gwaith a oedd i ddechrau’r un diwrnod. Fodd bynnag, bu i Swyddogion Safonau Masnach yr Adain Gwarchod y Cyhoedd ymyrryd ac atal y gwaith rhag cael ei gwblhau. Yn y pen draw bu iddyn nhw ddatgelu nad oedd dim o’i le ar y to presennol a bod y pris a ddyfynnwyd ddwywaith yn fwy na chost rhesymol aildoi.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n boen meddwl bod y cwpl yma sydd wedi ymddeol yn ein cymuned wedi eu hudo i ganiatáu gwaith diangen, drud ac, yn fwy na thebyg, o safon wael ar eu heiddo gan ddyn a oedd wedi galw’n ddiwahoddiad a’u dychryn i feddwl y byddai methu gwneud y gwaith atgyweirio mawr yn syth bin yn arwain at fwy o broblemau. Dw i’n falch iawn ac yn mae’n dda gen i glywed bod y broblem, y tro hwn, wedi ei datrys a bod y troseddwr wedi ei ddal i gyfrif yn y llysoedd troseddol.
“Mae poenydio preswylwyr diamddiffyn, oedrannus yn rhywbeth dirmygadwy, anwaraidd a chas iawn, ac mae’n digwydd yng nghalon ein cymunedau. Felly, dw i’n annog holl drigolion Wrecsam i gadw llygad am unrhyw beth amheus neu anarferol yn eu cymdogaethau, a meddwl am eu ffrindiau, eu cymdogion a’u perthnasau, yn enwedig y rheiny sy’n fwy diamddiffyn i fygythiadau galwyr digroeso sy’n cynnig atgyweirio eu heiddo. Fel rydym ni wedi gweld, does arnyn nhw ond angen rhoi un droed wrth ddrws eich tŷ i ddechrau gwerthu’n galed a’ch dychryn neu’ch hudo i ganiatáu gwaith drud iawn.
“Hoffaf hefyd ddiolch i bawb ddaru helpu efo’r achos hwn i gael canlyniad llwyddiannus.”
Cyngor gan Safonau Masnach: “Os ydych chi’n credu bod angen gwneud gwaith ar eich tŷ, chwiliwch am grefftwyr ag enw da a holwch am ddyfynbrisiau gan fwy nag un cwmni cyn dechrau unrhyw waith. Gwiriwch pryd a sut y byddwch yn talu. Defnyddiwch argymelliadau a gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn manylion llawn y cwmni cyn i chi ymrwymo i unrhyw waith. Os ydych chi’n ansicr, holwch ffrind neu aelod o’ch teulu. Peidiwch â chytuno ag unrhyw waith gan alwyr diwahoddiad ar garreg eich drws.”
Os ydych chi’n gweld unrhyw beth amheus neu os hoffech chi roi gwybod am ddigwyddiad ffoniwch:
Yr Heddlu ar 101
Neu Gwasanaethau Cwsmer Cyngor Ar Bopeth ar 03454 040505.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN