Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â phoeni am adrodd drosedd casineb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Peidiwch â phoeni am adrodd drosedd casineb
Pobl a lleY cyngor

Peidiwch â phoeni am adrodd drosedd casineb

Diweddarwyd diwethaf: 2017/11/15 at 12:17 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Peidiwch â phoeni am adrodd drosedd casineb
RHANNU

Mae’r darn hwn wedi ei ysgrifennu fel rhan o gyfres o ddatganiadau ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu 2017.

Mae trosedd casineb yn fater difrifol – a gall fod ar sawl ffurf.

Ni ddylai pobl deimlo dan fygythiad na dioddef trais oherwydd nodweddion fel eu cenedl, eu hil na’u credoau.

DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.

Mae digwyddiadau fel hyn fel arfer yn amlwg iawn – ond weithiau gall trosedd casineb fod yn fwy cudd, ac yn fwy andwyol.

Digwyddiad Casineb yw unrhyw ddigwyddiad lle mae’r dioddefwr yn dioddef ymddygiad cas oherwydd hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.

Digwyddiad Casineb yw unrhyw ddigwyddiad lle mae’r dioddefwr yn dioddef ymddygiad cas oherwydd hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsryweddol.

Mae’n bosib na fydd mor amlwg ag ymosodiad; gallai fod yn achos o fwlio neu alw enwau.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod wedi dioddef oherwydd un o’r ffactorau hyn, dylech adrodd amdano fel trosedd casineb.

Hyd yn oed os nad ydych am roi gwybod amdano, mae’n bwysig fod asiantaethau fel yr heddlu yn gwybod amdano, fel y gallant ddeall faint o ddigwyddiadau sy’n digwydd, ac ymhle. Gallai hefyd fod o gymorth i heddlu sy’n ymchwilio troseddau casineb eraill.

Peidiwch â phoeni am adrodd amdano

Rydym yn gwybod fod pobl yn poeni am adrodd am bethau fel troseddau casineb – os ydynt yn ddioddefwr eu hunain, neu os ydynt wedi ei weld yn digwydd i rywun arall.

Gall fod yn anodd adrodd am ddigwyddiadau o’r fath, yn arbennig os yw pobl yn teimlo eu  bod yn ymwthio i fusnes preifat rhywun arall.

Neu gall pobl fod ofn dod ymlaen eu hunain er mwyn mynd at asiantaeth neu wasanaeth cyhoeddus fel yr heddlu.

Ond y mwyaf o bobl sy’n rhoi gwybod am ddigwyddiadau, y mwyaf o wybodaeth y bydd gan yr heddlu er mwyn eu helpu i drin â digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Fel rhan o Wythnos Diogelu 2017, sy’n rhedeg rhwng 13 ac 17 Tachwedd, rydym am sicrhau fod pawb yn ymwybodol o’r ffaith y gallant adrodd am droseddau casineb.

Ni ddylai neb orfod ddioddef troseddau casineb.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Yn syml, ni fyddwn yn dioddef trosedd casineb.

“Mae gan bawb hawl i fyw eu bywydau yn rhydd rhag effeithiau niweidiol rhagfarn neu gasineb, ac yng Nghyngor Wrecsam rydym am wneud popeth y gallwn ei wneud i atgoffa pobl nad oes yn rhaid i bobl ddioddef mewn tawelwch os ydynt yn teimlo eu bod wedi dioddef trosedd casineb.”

Os oes gennych unrhyw beth i’w adrodd amdano, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 mewn argyfwng) neu Gyngor Wrecsam – naill ai Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar 01978 292066, neu Gofal Cymdeithasol i Blant ar 01978 292039, yn dibynnu ar y digwyddiad.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=453&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DYWEDWCH EICH DWEUD[/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://newyddion.wrecsam.gov.uk”]GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU[/button]

Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.

Rhannu
Erthygl flaenorol Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd! Estynnwch eich dyddiadur – mae’r Nadolig ar ei ffordd!
Erthygl nesaf Addysg – dywedwch wrthym sut i arbed arian! Addysg – dywedwch wrthym sut i arbed arian!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lle Y cyngor Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle Medi 4, 2025
Driving
Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya
Arall Medi 3, 2025
Mobile phone
Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul
Arall Medi 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25
Pobl a lleY cyngor

Nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys 999 ar 9/9/25

Medi 5, 2025
‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ - Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon
Pobl a lle

‘Dod â gweithgaredd chwareus i neuadd y farchnad’ – Tŷ Pawb i greu gofod gweithgaredd hyblyg newydd sbon

Medi 4, 2025
Recycling
Y cyngor

Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…

Awst 30, 2025
admissions
Busnes ac addysgY cyngor

Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026

Awst 29, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English