Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch ag esgeuluso eich iechyd meddwl y Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Peidiwch ag esgeuluso eich iechyd meddwl y Nadolig hwn
ArallPobl a lle

Peidiwch ag esgeuluso eich iechyd meddwl y Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 18, 2018 3:14 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Christmas Mental Health
RHANNU

Rydych yn troi’r teledu ymlaen ac yn gweld hysbysebion y Nadolig… rydych yn gweld pobl wedi ymgynnull o amgylch y bwrdd, yn gwenu, chwerthin a thynnu coes….

Cynnwys
  • Peidiwch â’i anwybyddu
  • Edrychwch allan am eraill…

Maent yn cael amser gwych…rydych yn meddwl mai dyma sut y dylai’r Nadolig fod … ac mae hyn yn gwneud i chi deimlo dan bwysau, yn bryderus ac yn aml yn unig.

Peidiwch â theimlo cywilydd nac yn euog … mae’r Nadolig yn gyfnod eithriadol o brysur ac emosiynol, ac mae’n bwysig ein bod yn edrych ar ôl ein hunain.

Peidiwch â’i anwybyddu

Os ydych yn teimlo fel hyn, mae’n bwysig iawn sylweddoli mai nid chi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn a bod yna gefnogaeth ar gael.

Roedd comisiwn Unigrwydd Jo Cox wedi canfod yn ddiweddar bod miliynau ohonom yn teimlo’n unig, rhywfaint neu drwy’r amser – ond yn arbennig adeg y Nadolig.

Os ydych angen siarad, mae gan y Samariaid rif rhadffôn y gallwch ffonio o unrhyw ffôn: 116 123.

Ac nid dros gyfnod y Nadolig yn unig – gallwch eu ffonio 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn!

Mae siarad yn gallu helpu yn aml 🙂

Dyma gyngor ar sut i edrych ar ôl eich iechyd meddwl….

• Os ydych yn teimlo’n bryderus, ewch i bartïon a digwyddiadau cymdeithasol yn fuan cyn iddynt fynd yn rhy brysur (ac ewch â ffrind yn gymorth efallai).
• Er ei bod yn Nadolig, daliwch i wneud y pethau arferol sy’n eich helpu i gadw’n iach – gall hyn gynnwys mynd i redeg yn y bore, neu hyd yn oed ymwybyddiaeth ofalgar?
• Gall maetheg gwael gynyddu symptomau – yfwch ddigon a bwytewch yn rheolaidd drwy gydol y diwrnod.

Edrychwch allan am eraill…

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn, efallai nad yw eraill o’ch cwmpas chi.

Os ydy rhywun rydych yn ei adnabod yn dawel neu’n fewnblyg, peidiwch â meddwl eu bod yn ‘ddiflas’ – gofynnwch os ydyn nhw’n iawn a beth allwch chi ei wneud i’w helpu i fwynhau mwy ar yr ŵyl.

Ond os ydyn nhw’n rhy bryderus i fynd allan o gwbl, ewch draw gyda mins peis – rydym yn siŵr y byddent yn gwerthfawrogi hyn.

Dyma ambell gyngor sy’n gallu eich helpu i fwynhau’r Nadolig yn well. Mae yna fwy o gyngor ar wefan Mind.

A chofiwch, os ydych angen siarad, gallwch ffonio’r Samariaid ar unrhyw adeg o’r dydd ar 116 123.

Cadwch yn iach y Gaeaf hwn 🙂

Rhannu
Erthygl flaenorol Housing Repairs Work Planner Job Vacancy Helpwch ni i ofalu am ein tai cyngor – edrychwch ar y swydd hon…
Erthygl nesaf ask for angela in wrexham Tafarndai yn Wrecsam yn cefnogi ymgyrch ‘Gofynnwch am Angela’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English