Os nad ydych chi wedi ymateb i’r llythyrau ynglŷn â’r canfasiad blynyddol yna fe allwch chi golli cyfle i ddweud eich dweud ar bwy fydd yn eich cynrychioli chi yn Llywodraeth Cymru a phwy fydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd pan gynhelir yr etholiadau fis Mai nesaf.
Ac mae hyd yn oed mwy o bobl yn gymwys i bleidleisio rŵan gan fod pobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys 16 oed neu hŷn yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Felly cofiwch wneud yn siŵr eich bod hi’n ychwanegu enw unrhyw un dros 14 oed yn eich aelwyd i sicrhau nad ydyn nhw’n colli’r cyfle i bleidleisio.
Bydd arnoch chi hefyd angen ymateb os ydych chi wedi symud tŷ ers i chi gofrestru ddiwethaf – rhywbeth y mae pobl yn ei anghofio’n aml.
Pam bod cofrestru yn bwysig?
Mae cofrestru yn gallu’ch helpu chi os oes arnoch chi angen gwiriad credyd – wrth brynu car, derbyn morgais neu ymrwymo i gontract ffôn.
Sut medde chi? Wel, achos bod banciau a benthycwyr eraill sy’n gwirio sgoriau credyd yn edrych drwy’r gofrestr etholiadol i wirio’ch cyfeiriad.
Drwy gofrestru fe allwch chi wella’ch sgôr credyd gan fod benthycwyr yn gwybod eich bod chi’n dweud y gwir am bwy ydych chi.
Fe all fod yn ddefnyddiol iawn i chi os nad oes gennych chi hanes credyd hir e.e. os ydych chi’n derbyn benthyciad neu gontract ffôn am y tro cyntaf.
Felly peidiwch ag oedi. Cofrestrwch heddiw!
Beth sydd yn rhaid i mi ei wneud?
- Os ydi pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn eich cyfeiriad eisoes wedi cofrestru, does arnoch chi ddim angen gwneud unrhyw beth
- Os yw’r wybodaeth yn anghywir neu os oes pobl sy’n gymwys i bleidleisio sydd heb gael eu cynnwys, bydd arnoch chi angen ymateb. Ewch i www.householdresponse.com/wrexham i wneud y newidiadau angenrheidiol.
- Unwaith rydych wedi gwneud hyn, dylai pobl newydd gofrestru’n unigol ar www.gov.ukcofrestru-i-bleidleisio
Pam bod cofrestru yn bwysig?
Mae cofrestru yn gallu’ch helpu chi os oes arnoch chi angen gwiriad credyd – wrth brynu car, derbyn morgais neu ymrwymo i gontract ffôn.
Sut medde chi? Wel, achos bod banciau a benthycwyr eraill sy’n gwirio sgoriau credyd yn edrych drwy’r gofrestr etholiadol i wirio’ch cyfeiriad.
Drwy gofrestru fe allwch chi wella’ch sgôr credyd gan fod benthycwyr yn gwybod eich bod chi’n dweud y gwir am bwy ydych chi.
Fe all fod yn ddefnyddiol iawn i chi os nad oes gennych chi hanes credyd hir e.e. os ydych chi’n derbyn benthyciad neu gontract ffôn am y tro cyntaf.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG