Allwch chi ei gredu? Mae Tŷ Pawb yn bum mlwydd oed!
Ac am bum mlynedd! Ers y dydd Llun Gŵyl Banc gwlyb, hyfryd hwnnw nôl yn 2018, pan ddaeth 10,000 o bobl allan i’n gweld i agor ein drysau am y tro cyntaf, mae Tŷ Pawb wedi tyfu i fod yn gyfleuster marchnad, celfyddydau a chymunedol ffyniannus, sydd wedi ennill sawl gwobr, ac Cyrhaeddodd rownd derfynol Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf, ac enghraifft arloesol a gydnabyddir yn genedlaethol o sut i ail-ddychmygu adeilad cyhoeddus.
Ni fyddai’r llwyddiannau hyn wedi bod yn bosibl heb ymdrechion rhyfeddol y gymuned o fasnachwyr, artistiaid, staff, gwirfoddolwyr a’r holl grwpiau ac unigolion di-ri eraill sy’n rhan o’n teulu Tŷ Pawb.
Felly, i ddathlu’r garreg filltir hon, rydym wedi bod yn treiddio drwy ein harchifau byr (ond sylweddol) i ddewis rhai o’r eiliadau gorau o’n pum mlynedd gyntaf. Eiliadau sy’n crynhoi hanfod Tŷ Pawb.
Mae crynhoi ein stori mewn cyfnod byr wedi bod yn dipyn o dasg! Mae llawer wedi digwydd ers 2018….
- Rydym wedi croesawu dros 1,240,400 o bobl drwy ein drysau.
- Rydym wedi arddangos 31 o arddangosfeydd, yn cynnwys dros 700 o artistiaid.
- Rydym wedi cynnal dros 300 o berfformiadau.
- Rydym wedi dod yn gartref i dros 30 o fasnachwyr sy’n cynnig ystod eang o gynnyrch cyffrous a bwyd cartref.
- Rydym wedi ennill gwobrau, gan gynnwys y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Llangollen, Pensaernïaeth Ôl-ffitio’r Flwyddyn a’r Adeilad Diwylliannol Gorau o dan £5m.
- Yn 2022, fe gyrhaeddon ni’r pum rhestr fer olaf ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf – gwobr amgueddfa fwyaf y Byd!
‘Syniad gwych a dewr’
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones: “Hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud â Tŷ Pawb am eu cyfraniad i greu rhywbeth unigryw, arloesol a gwirioneddol arbennig yng nghanol dinas Wrecsam.
“Dros bum mlynedd, mae arlwy diwylliannol a masnachol nodedig Tŷ Pawb wedi tyfu ac esblygu i fod yn gyfleuster gwych, sy’n cael ei garu’n lleol ac sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel enghraifft flaenllaw o sut i ail-ddychmygu adeilad presennol yn ofod cymunedol ffyniannus. Mae hefyd wedi dangos gwytnwch, arloesedd a chreadigrwydd aruthrol i gwrdd â heriau byd cythryblus, pan fo angen; mae rhaglen wych Arts At Home, a gyflwynwyd yn ystod y cyfyngiadau symud, yn enghraifft berffaith o hyn.”
“Trwy gydol hyn oll, mae’r tîm wedi aros yn driw i weledigaeth graidd Tŷ Pawb o ddod â’r celfyddydau, marchnadoedd a chymunedau ynghyd o dan yr un to, wedi’u hysbrydoli gan y gred y gall celf fod yn arf ar gyfer newid cymdeithasol.
“Mae Tŷ Pawb hefyd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i sîn ddiwylliannol gynyddol Wrecsam. Yn ogystal â denu sylw a chanmoliaeth genedlaethol a rhyngwladol yn ei rhinwedd ei hun, chwaraeodd ran allweddol wrth ein helpu i gyrraedd rhestr fer derfynol Dinas Diwylliant yn 2022.”
“Disgrifiodd beirniaid Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf Tŷ Pawb fel: ‘Syniad gwych a dewr’. Gall pawb yn Wrecsam fod yn falch iawn o gael hwn ar garreg ein drws. Rydyn ni i gyd yn gyffrous i weld pa amseroedd cyffrous sydd i ddod yn y blynyddoedd i ddod.”
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD