Pwy fysa’n meddwl, Wrecsam a chwpan yr Uwch Gynghrair yn cael eu dweud yn yr un frawddeg 😉
Wel, diolch i waith ardderchog Dosbarth Clywedog a Thaf (Blwyddyn 3) Ysgol Gynradd y Santes Fair, ddydd Gwener 5 Gorffennaf cafodd disgyblion yr ysgol gyfle i weld y gwpan enwog ar ôl i’r dosbarth ennill Her Llygredd Plastig Sky Ocean Rescue a’r Uwch Gynghrair.
Os cofiwch, yn ein blog ychydig wythnosau yn ôl soniwyd am ymweliad y dosbarth â stiwdios Sky yn Llundain i gyflwyno adroddiad newyddion am eu haddewid i ‘Feddwl ac Ailddefnyddio’.
Roedd y dosbarth yn cystadlu yn erbyn naw ysgol arall, ac mae’n amlwg bod eu cyflwyniad wedi creu argraff fawr ar y beirniaid.
“Pencampwyr llawn haeddiannol”
Meddai’r Cyng. A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roeddwn i wedi dotio pan glywais am waith Dosbarth Clywedog a Thaf Ysgol y Santes Fair ar draws Wrecsam, a arweiniodd at wahoddiad i stiwdios Sky i roi cyflwyniad ar ailgylchu.
“Nid yw’n fawr o syndod i mi pam glywais mai nhw oedd yn fuddugol. Maen nhw’n wych – yn glod i Wrecsam – ac os oes ar unrhyw un angen ychydig o ysbrydoliaeth i ailgylchu yna edrychwch ar y pencampwyr llawn haeddiannol yma.”
Yn ogystal â chael gweld cwpan yr Uwch Gynghrair, cafodd yr ysgol hefyd ymweliad gan Plasticus (morfil Sky Ocean Rescue) a gwesteion arbennig eraill.
Meddwl ac Ailddefnyddio
Mae’r dosbarth wedi bod yn lledaenu’r neges ‘Meddwl ac Ailddefnyddio’ o amgylch Wrecsam, gan ofyn i gaffis lleol osod eu posteri ‘Ail-lenwi nid Tirlenwi’ yn eu ffenestri.
Meddai Rachel Acton, Pennaeth Ysgol y Santes Fair: “Rydym ni’n falch iawn o ddisgyblion blwyddyn 3 sy’n addysgu cymuned yr ysgol am yr addewid ‘Meddwl ac Ailddefnyddio’. Mae’n bwysig iawn bod ein plant yn deall eu cyfrifoldebau o ran edrych ar ôl ein planed ac maen nhw, a’r Pwyllgor Eco, yn arwain y ffordd.
“Mae’n wych meddwl bod y plant, drwy eu gwaith, wedi eu hysbrydoli i feddwl am fentrau newydd i wella cyfleusterau ailgylchu yn yr ysgol ac addysgu pob aelod o gymuned yr ysgol, gan gynnwys y staff arlwyo.”
Meddwl ac Ailddefnyddio ar waith
Mae’r ysgol gyfan bellach wedi ymrwymo i’r addewid ‘Meddwl ac Ailddefnyddio’. Pan fydd digwyddiadau fel disgos a mabolgampau yn cael eu cynnal bydd yr ysgol yn ceisio osgoi defnyddio plastig untro. Mae her ‘bocs bwyd di-blastig’ wedi ei chyflwyno i annog plant a rhieni i feddwl “a oes arnaf angen yr holl ddeunydd pacio plastig yma?”
Mae gwasanaethau ysgol hefyd wedi rhoi sylw i bethau eraill y gellid eu defnyddio yn lle plastig untro. Ar ben hyn, mae’r plant wrthi’n creu tai gwydr allan o boteli plastig ac mae’r ysgol wedi cyflwyno cynllun ailgylchu pacedi creision.
Beth yw barn y plant?
Dyma ychydig o ddyfyniadau gan blant Ysgol y Santes Fair:
Cali: “Dw i’n meddwl bod lleihau ac ailgylchu plastig yn bwysig iawn oherwydd dyma ein byd ni ac mae’n rhaid i ni ei warchod.”
Eric: “Rydym ni wedi dysgu llawer am ailgylchu plastig a dw i’n meddwl y dylem ni geisio dysgu pawb am bwysigrwydd ailgylchu.”
Austeja: “Mae arnom ni eisiau i bobl feddwl cyn prynu plastig. Oes wir ei angen neu a oes modd defnyddio eitem arall fel bag, bocs bwyd neu botel?”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN! DOES DIM OTS GEN