Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pethau y gallwch chi eu rhoi yn eich cadi bwyd dros y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Arall
Wrecsam
Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines
Arall Fideo Pobl a lle
Women's Health Event 2026
Digwyddiad Iechyd Menywod 2026
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Pethau y gallwch chi eu rhoi yn eich cadi bwyd dros y Nadolig
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Pethau y gallwch chi eu rhoi yn eich cadi bwyd dros y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: 2024/12/12 at 10:34 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Chestnuts Food Waste Recycling
RHANNU

Rydym yn ceisio gwella’r hyn yr ydym yn ei ailgylchu, ac mae’n bwysig iawn eich bod yn cofio bod ailgylchu gwastraff bwyd yn rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth anferth yn Wrecsam.

Cynnwys
Esgyrn twrciBwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch platPlisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiauBwyd CyflymYr holl stwff arallRydym ni’n cynnig bagiau bin bwyd am ddim

A dros y Nadolig, bydd llawer ohonom yn delio â chyfaint mwy o fwyd nac unrhyw adeg arall o’r flwyddyn.

Felly, mae’n debyg fod hwn yn amser da i atgoffa’n hunain beth fedrwn ni ei ailgylchu yn ein cadi bwyd yn tydi? Pawb yn cytuno? Iawn ta, beth am sôn am rai o’r pethau y byddai eich cadi bwyd yn eu caru’r Nadolig hwn.

Esgyrn twrci

Nid esgyrn twrci yn unig chwaith, gellir ailgylchu esgyrn a charcasau pob cig fel gwastraff bwyd…a chofiwch, mae eich cadi bwyd yn cael ei wagio bob wythnos, ond nid felly eich gwastraff cyffredinol. Felly os na fyddwch yn ailgylchu’r pethau hyn byddent yn eistedd, yn pydru yn eich bin am ychydig wythnosau. Does neb eisiau bin drewllyd … yn arbennig dros y Nadolig.

Oes gennych chi sbarion twrci neu gigoedd eraill? Gallech chi geisio coginio gyda’ch sbarion… meddyliwch am risottos, cyris, cawl a lobsgows. Eisiau ychydig o ysbrydoliaeth? Mae gan wefan Love Food Hate Waste syniadau gwych ar gyfer ryseitiau!

Gallwch ailgylchu cig wedi’i goginio yn eich cadi, ond ceisiwch osgoi gwastraff a achosir drwy brynu gormod.

Bwyd amrwd, bwyd wedi llwydo a chrafu’ch plat

Er gwaethaf ein hymdrechion, bydd un eitem bob hyn a hyn yn mynd yn sownd yng nghefn yr oergell ac yn mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddiwch erbyn’.

Pan fo hyn yn digwydd, dylem bob amser droi at ein cadi. Os yw’n gig amrwd, gall fynd i mewn i’ch cadi. Os yw’n rhywbeth sydd wedi llwydo, gall fynd i’ch cadi hefyd. Rydym yn gwybod ein bod yn ailadrodd ein hunain, ond mae eich cadi’n cael ei wagio bob blwyddyn …. bin drewllyd… ydach chi’n deall beth sydd gennon ni?

Arfer da arall i chi drwy gydol y flwyddyn yw crafu eich plât i mewn i’ch cadi bwyd os oes gennych chi unrhyw sbarion.

Plisgyn, croen a chraidd ffrwythau a llysiau

Gellir ailgylchu plisgyn fel gwastraff bwyd. Felly os ydych chi’n mwynhau cnau castan neu unrhyw gnau dros y Nadolig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgylchu’r plisgyn yn eich cadi. Gellir ailgylchu plisgyn llai Nadoligaidd, fel plisgyn wy.

Gellir ailgylchu crwyn llysiau a ffrwythau ynghyd â chraidd afal. Gallwch hefyd ailgylchu unrhyw ffrwythau a llysiau heb eu bwyta, ysgewyll a’r cyfan.

Bwyd Cyflym

Efallai y bydd diwrnod neu ddau dros y Nadolig pan na fydd neb yn teimlo fel coginio. Ar y dyddiau hyn, efallai y byddwch yn archebu bwyd tecawê, ond cofiwch ei bod yn dal yn bosibl ailgylchu sglodion heb eu bwyta a sbarion pitsa.

Yr holl stwff arall

Mae hefyd yr holl stwff arall na ddylech ei anghofio sy’n gallu mynd i’ch cadi bwyd, fel:

• Bagiau te
• Coffi mân
• Pysgod cregyn
• Prydau parod heb eu bwyta
• Cyllyll a ffyrc pren

Rydym ni’n cynnig bagiau bin bwyd am ddim

Gallwch barhau i gael eich bagiau bin bwyd am ddim drwy glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleus, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.  Cliciwch yma i weld y rhestr gyflawn.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Yn gyffredinol, bydd gan bobl mwy o wastraff bwyd yn ystod y Nadolig na’r arfer, felly sicrhewch ei fod oll yn mynd i’ch cadi bwyd. Ailgylchwch eich esgyrn twrci, plicion ffrwythau a llysiau, plisgyn wyau ac unrhyw sbarion nad ellir eu bwyta’n ddiogel eto.”

Reit, rŵan fod gennym ni’r holl wybodaeth…beth am i bawb gymryd rhan a gweithredu’r Nadolig hwn.

Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED: ailgylchu, food waste, gwastraff bwyd, recycling
Rhannu
Erthygl flaenorol canfasio Mae’r canfasio blynyddol bron â dod i ben
Erthygl nesaf Compliance Notices Awgrymiadau ar gyfer Nadolig hwyliog a diogel wrth fynd allan

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
Digwyddiadau Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Chwefror 5, 2026
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Tŷ Pawb i gynnal gŵyl gerddoriaeth 3 diwrnod AM DDIM!
Digwyddiadau Chwefror 4, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Arall Chwefror 4, 2026
Wrecsam
Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines
Arall Fideo Pobl a lle Chwefror 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029
DigwyddiadauPobl a lleYn cael sylw arbennig

WRECSAM YN CYFLWYNO MYNEGIAD O DDIDDORDEB AR GYFER DINAS DIWYLLIANT Y DU 2029

Chwefror 5, 2026
Wrecsam
ArallFideoPobl a lle

Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines

Chwefror 3, 2026
Women's Health Event 2026
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad Iechyd Menywod 2026

Chwefror 3, 2026
Wrexham cemetery
DigwyddiadauPobl a lle

Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam

Chwefror 2, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English