Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Picnic Mawr Wrecsam! Dewch draw ddydd Sadwrn yma (22 Mehefin) a helpwch i ddathlu ein dinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Picnic Mawr Wrecsam! Dewch draw ddydd Sadwrn yma (22 Mehefin) a helpwch i ddathlu ein dinas
Pobl a lle

Picnic Mawr Wrecsam! Dewch draw ddydd Sadwrn yma (22 Mehefin) a helpwch i ddathlu ein dinas

Diweddarwyd diwethaf: 2024/06/18 at 1:03 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Y Picnic Mawr Wrecsam. Mynediad am ddim. Parc Bellevue 22 Mehefin 1pm-5pm / The Big Wrexham Picnic. Free entry. Bellevue Park - June 22, 1pm-5pm.
Y Picnic Mawr Wrecsam. Mynediad am ddim. Parc Bellevue 22 Mehefin 1pm-5pm.
RHANNU
  • Dydd Sadwrn, 22 Mehefin
  • Y Parciau, Wrecsam
  • 1pm-5pm

Mae pobl o bob rhan o’r ddinas yn cael eu hannog i ddod ynghyd ar gyfer Picnic Mawr Wrecsam y penwythnos hwn.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 22 Mehefin yn Y Parciau, i ddathlu cymunedau lleol, ac mae’n argoeli i fod yn llawer o hwyl!

Felly dewch â’ch bwyd eich hun a mwynhewch brynhawn o gelf, crefftau, chwaraeon, cerddoriaeth, gwyddoniaeth ac adrodd straeon yn un o barciau harddaf Wrecsam.

Bydd y gerddoriaeth yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Ysgol Victoria a band dur Ysgol Clywedog, ac os ydych chi’n teimlo’n heini, fe allwch chi gymryd rhan mewn gweithgareddau tennis a chiciau o’r smotyn!

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r digwyddiad yn rhan o Wythnos Genedlaethol Ffoaduriaid, ac mae’n cael ei drefnu gan sefydliadau partner ar draws Wrecsam, yn cynnwys Trefnu Cymunedol Cymru, Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru.

Meddai Bobbi Cockcroft, Trefnydd Cymunedol gyda Threfnu Cymunedol Cymru: “Y thema yw ‘Ein Cartref’ ac rydym eisiau dathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam fel rhan o Wythnos Genedlaethol Ffoaduriaid.

“Mae yna gymaint yn digwydd yn Wrecsam ac mae’n lle gwych i fyw – felly dewch draw i’r Parciau a helpwch ni i ddathlu ein dinas.

“Mae’n mynd i fod yn llawer o hwyl, gyda digonedd o adloniant a gweithgareddau. A waeth i ni fod yn onest…pwy sydd ddim yn caru picnic?! Welwn ni chi ddydd Sadwrn!”

Meddai’r Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau Cyngor Wrecsam: “Mae gennym ni gymaint o gymunedau gwych, a chroesawgar yn Wrecsam a dwi’n gobeithio y daw cymaint o bobl â phosibl draw.

“Mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad gwych ac yn ffordd hyfryd o ddathlu ‘Ein Cartref’”.

Mae’r digwyddiad yn dechrau am 1pm, ac mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Mae llefydd parcio’n brin yn Y Parciau, felly pam na wnewch chi gerdded…neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus?

Neu parciwch yn un o’r prif feysydd parcio yng nghanol y ddinas a cherddwch draw i’r parc (mae mwyafrif y prif feysydd parcio yn eithaf agos).

Rhannu
Erthygl flaenorol Markets Adnewyddu marchnadoedd dan do hanesyddol Wrecsam
Erthygl nesaf Mae hi’n Wythnos Cludiant Gwell (17-23 Mehefin) Mae hi’n Wythnos Cludiant Gwell (17-23 Mehefin)

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
barbecue cooking in warm weather
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu

Gorffennaf 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English