Rydym ni’n paratoi ar gyfer digwyddiad plannu coed a fydd yn digwydd yng nghaeau chwarae Bradle, sy’n cael eu galw yn The Wauns yn lleol, ar 25 Tachwedd i nodi cychwyn Wythnos Genedlaethol y Coed.
Mae Wythnos Genedlaethol y Coed eleni yn arbennig iawn gan ei fod yn nodi 50 mlynedd ers ymgyrch enwog ‘Plannu Coeden yn 73’ – a ganwyd Wythnos Genedlaethol y Coed o’r ymgyrch hwnnw. Cynhelir y sesiynau plannu coed rhwng 10-4pm dydd Sadwrn 25 Tachwedd. Bydd dros 2000 o goed yn cael eu plannu ar draws y safle, wedi’u hariannu gan Gronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw.
Os hoffech chi ymuno fe fyddwn ni’n plannu ar ochr bella’r caeau chwarae, felly gwnewch eich ffordd draw, gafaelwch mewn rhaw a chymerwch ran!
Yn sgil y cynllun, fe fydd yr ardal yn cael ei ddychwelyd i amodau cyn y chwyldro diwydiannol drwy gysylltu a gwella ardaloedd presennol o goed ar y caeau. Bydd hyn yn gwella coridorau bywyd gwyllt rhwng cynefinoedd a chefnogi ein hymdrechion atafaelu carbon.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Yn dilyn llwyddiant tymor plannu’r llynedd, rydym ni’n cydnabod manteision prosiectau isadeiledd gwyrdd fel y rhain a’u rôl bwysig yn ein hymateb i’r argyfwng natur a hinsawdd rydym ni’n ei wynebu. “Mae prosiectau plannu coed yn datblygu cysylltedd rhwng cynefinoedd presennol, gwella gwytnwch ecosystem yn ogystal â chreu mannau croesawgar a phleserus i ymweld â nhw.”
Mae’r gwaith yma hefyd yn cefnogi gweledigaeth Partneriaeth Coedwig Wrecsam a’n hymrwymiad i gynyddu gorchudd canopi ar draws y sir. Grŵp ar y cyd o sefydliadau a thirfeddianwyr yw Partneriaeth Coedwig Wrecsam sydd ag angerdd am gadwraeth coed a choetiroedd yn Wrecsam. Mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn awyddus i gael cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer coed a choetiroedd yn Wrecsam ac maent wedi creu Addewid Coetir Wrecsam fel ffordd o gynnwys y cyhoedd.
Os ydych chi’n pryderu am goed a choetiroedd yn Wrecsam, gallwch gytuno i’r addewid. Rydym eisiau i bawb, o unigolion i fusnesau a grwpiau cymunedol, roi eu cefnogaeth a dysgu am y ffyrdd y gallwn amddiffyn y cynefin hollbwysig yma.’
Gallwch arwyddo’r addewid ac ymuno â’n rhestr bostio yma
Gallwch ddilyn Addewid Coetir Wrecsam ar Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau.