Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Plannu coed yn The Wauns, caeau chwarae Bradle
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
50
Arbenigwyr gwelyau hynafol Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Plannu coed yn The Wauns, caeau chwarae Bradle
ArallPobl a lleY cyngor

Plannu coed yn The Wauns, caeau chwarae Bradle

Diweddarwyd diwethaf: 2023/11/21 at 10:45 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Trees
RHANNU

Rydym ni’n paratoi ar gyfer digwyddiad plannu coed a fydd yn digwydd yng nghaeau chwarae Bradle, sy’n cael eu galw yn The Wauns yn lleol, ar 25 Tachwedd i nodi cychwyn Wythnos Genedlaethol y Coed.

Mae Wythnos Genedlaethol y Coed eleni yn arbennig iawn gan ei fod yn nodi 50 mlynedd ers ymgyrch enwog ‘Plannu Coeden yn 73’ – a ganwyd Wythnos Genedlaethol y Coed o’r ymgyrch hwnnw.  Cynhelir y sesiynau plannu coed rhwng 10-4pm dydd Sadwrn 25 Tachwedd. Bydd dros 2000 o goed yn cael eu plannu ar draws y safle, wedi’u hariannu gan Gronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw.

Os hoffech chi ymuno fe fyddwn ni’n plannu ar ochr bella’r caeau chwarae, felly gwnewch eich ffordd draw, gafaelwch mewn rhaw a chymerwch ran! 

Yn sgil y cynllun, fe fydd yr ardal yn cael ei ddychwelyd i amodau cyn y chwyldro diwydiannol drwy gysylltu a gwella ardaloedd presennol o goed ar y caeau.  Bydd hyn yn gwella coridorau bywyd gwyllt rhwng cynefinoedd a chefnogi ein hymdrechion atafaelu carbon. 

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd:  “Yn dilyn llwyddiant tymor plannu’r llynedd, rydym ni’n cydnabod manteision prosiectau isadeiledd gwyrdd fel y rhain a’u rôl bwysig yn ein hymateb i’r argyfwng natur a hinsawdd rydym ni’n ei wynebu.  “Mae prosiectau plannu coed yn datblygu cysylltedd rhwng cynefinoedd presennol, gwella gwytnwch ecosystem yn ogystal â chreu mannau croesawgar a phleserus i ymweld â nhw.” 

Mae’r gwaith yma hefyd yn cefnogi gweledigaeth Partneriaeth Coedwig Wrecsam a’n hymrwymiad i gynyddu gorchudd canopi ar draws y sir.  Grŵp ar y cyd o sefydliadau a thirfeddianwyr yw Partneriaeth Coedwig Wrecsam sydd ag angerdd am gadwraeth coed a choetiroedd yn Wrecsam. Mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn awyddus i gael cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer coed a choetiroedd yn Wrecsam ac maent wedi creu Addewid Coetir Wrecsam fel ffordd o gynnwys y cyhoedd.

Os ydych chi’n pryderu am goed a choetiroedd yn Wrecsam, gallwch gytuno i’r addewid. Rydym eisiau i bawb, o unigolion i fusnesau a grwpiau cymunedol, roi eu cefnogaeth a dysgu am y ffyrdd y gallwn amddiffyn y cynefin hollbwysig yma.’

Gallwch arwyddo’r addewid ac ymuno â’n rhestr bostio yma

Gallwch ddilyn Addewid Coetir Wrecsam ar Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau a digwyddiadau.

Rhannu
Erthygl flaenorol Parking Mae cyfyngiadau parcio’n berthnasol gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd – parciwch yn gyfrifol bob amser
Erthygl nesaf Tourism Parth buddsoddi i Sir Wrecsam a Sir Fflint

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 30, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Ydych chi’n gobeithio aros yn Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod yr haf hwn?

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English