Mae gwneud yn siŵr bod plant yn cael cyfle i anturio yn yr awyr agored yn ofnadwy o bwysig.
Felly, pan oedd y tywydd cystal ag oedd o yn gynharach yr wythnos yma, roedden ni’n meddwl ei fod yn gyfle rhy dda i’w golli!
Ymunodd Tîm yr Amgylchedd gydag ysgolion yn ardal Parc Caia a Chadwch Cymru’n Daclus yng nghoedwig gymunedol Caia am ddiwrnod o hel pryfed a chasglu sbwriel.
Cafodd y plant botiau pryfed gyda chwyddwydrau – er mwyn gallu syllu’n fanwl ar y pethau roeddent yn dod o hyd iddyn nhw – gan Alasdair Thomson o’r Gwasanaeth Ceidwaid, a theclynnau codi sbwriel gan Shane Hughes o Gadwch Cymru’n Daclus.
Bu disgyblion o Ysgol Hafod y Wern a Chanolfan Blynyddoedd Cynnar Wrecsam yn chwilio drwy’r coed a’r dolydd ger llaw am bryfed a sbwriel.
Ar ôl dal ac archwilio nifer o greaduriaid bach a chlirio sbwriel o’r goedwig gymunedol, fe setlodd y plant ar y glaswellt i gael picnic haeddiannol iawn.
Roedd y digwyddiad yn nodi 10 mlynedd ers dechrau cynllun Plant! Llywodraeth Cymru, a gafodd ei gynllunio i greu coedwig genedlaethol o goed collddail brodorol drwy blannu coeden am bob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd ers 1 Ionawr 2008. Y cynllun oedd yn gyfrifol am ariannu gwaith plannu coedwig gymunedol Caia yn 2011.
Daeth cynrychiolwyr o’r cynllun Plant! a’r Cynghorydd Ron Prince, aelod ward Cartrefle, i’r digwyddiad hefyd.
“Gwych gweld plant yn cymryd rhan”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gwych ydi gweld plant yn cymryd rhan wrth ofalu am eu hamgylchedd lleol a chymryd diddordeb mewn natur a bywyd gwyllt.”
Mae’r digwyddiad yma’n amlygu rhywfaint o’r gwaith pwysig rydyn ni wedi’i wneud i wella ansawdd ein mannau gwyrdd.”
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL