Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion
Pobl a lle

Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 17, 2024 11:44 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Young people hold bake sale to support male suicide prevention charity
RHANNU

Cynhaliodd aelodau o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam ddigwyddiad elusennol yn gwerthu teisennau yn ddiweddar, gan godi arian pwysig ar gyfer elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion.

Codwyd dros £500 hyd yn hyn i gefnogi Andy’s Man Club a sefydlwyd yn 2016, ac sydd yn cynnal sesiynau wythnosol yng nghanol dinas Wrecsam.

Dewisodd y grŵp gefnogi’r achos haeddiannol gan fod gan un o’r bobl ifanc berthynas sydd yn gefnogwr/eiriolwr ar gyfer Andy’s Man Club yn Wrecsam.

Cynlluniodd Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam y digwyddiad a gynhaliwyd dydd Iau, 26 Medi, wrth i’r grŵp ddylunio posteri, creu bwydlen o deisennau i’w gwerthu a chreu tudalen GoFundMe i bobl adael eu rhoddion. 

Yn dilyn sesiynau pobi a sesiynau addurno teisennau, fe werthodd y grŵp y teisennau mewn bore goffi a gynhaliwyd yn swyddfeydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ac mewn stondin deisennau dros dro yn Neuadd y Dref i Aelodau’r Cyngor, yn ogystal â thrwy wasanaeth cyflenwi i asiantaethau partner a chydweithwyr yng nghanol y ddinas.

Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion
Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion
Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion
Pobl ifanc yn gwerthu teisennau i gefnogi elusen sy’n atal hunanladdiad ymysg dynion

Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, sydd â chyfrifoldeb am Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid: “Mae’r broses o gynllunio a gwerthu’r teisennau yn glod mawr i’r staff a’r ieuenctid.  Fe ddylai aelodau o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam fod yn falch iawn o’u hymdrechion, gan olygu bod swm gwych o arian wedi cael ei godi ar gyfer achos haeddiannol iawn.  Da iawn i bawb a gymerodd ran.”

Codwyd £510 yn y digwyddiad, ond os hoffech chi gyfrannu, fe allwch chi dal wneud hynny – ewch i dudalen y grŵp ar Go Fund Me.

Andy’s Mans Club

Elusen sydd yn atal hunanladdiad ymysg dynion ydi Andy’s Man Club a sefydlwyd yn 2016 yn dilyn marwolaeth drasig Andrew Roberts trwy hunanladdiad yn 23 oed.

Maen nhw’n hwyluso grwpiau cefnogaeth cymheiriaid amhroffesiynol ar draws y DU y gall unrhyw ddyn dros 18 oed ei fynychu.

Maen nhw’n darparu gofod cyfrinachol anfeirniadol i ddynion ddod ynghyd i sgwrsio am unrhyw beth yr hoffent er mwyn iddynt gael bwrw eu bol.  Does yna ddim rhestr aros, dim atgyfeiriad na phroses gofrestru.

Maen nhw’n cynnal sesiynau wythnosol yng nghanol dinas Wrecsam ar nosweithiau Llun 7pm-9pm (heblaw am Wyliau Banc).

I ddysgu mwy, tarwch olwg ar dudalen Facebook Andy’s Man Club.

Mae gardd gymunedol Rhos angen eich cefnogaeth – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid WrecsamPobl ifancWrexham Youth Justice Serviceyoung people
Rhannu
Erthygl flaenorol Rain drops / wet weather Rhybudd tywydd
Erthygl nesaf Helpu’r gymuned i dyfu Helpu’r gymuned i dyfu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English