Mae etholiadau mis Mai yn prysur agosáu. Dyma ganllaw defnyddiol ar gyfer yr hyn y gallwch ei ddisgwyl os byddwch yn pleidleisio’n bersonol ddydd Iau 6 Mai.
Ble mae fy ngorsaf bleidleisio?
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio trwy’r post. Bydd hwn yn nodi lleoliad eich gorsaf bleidleisio. Sicrhewch eich bod yn gwirio eich cerdyn pleidleisio cyn mynd i bleidleisio, rhag ofn bod eich gorsaf bleidleisio wedi newid ers y tro diwethaf i chi bleidleisio. Gallwch hefyd ddarganfod ble ma eich gorsaf bleidleisio ar wefan y Comisiwn Etholiadol, trwy roi eich cod post.
Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm. Gallwch bleidleisio unrhyw bryd o fewn y cyfnod hwn. A pheidiwch ag anghofio bod rhaid i chi fynd i’r orsaf bleidleisio a neilltuwyd i chi; ni allwch fynd i un wahanol yn nes at eich gweithle, er enghraifft.
A fydd mesurau diogelwch ar waith yn yr orsaf bleidleisio?
Bydd, bydd gorsafoedd pleidleisio yn llefydd diogel i bleidleisio. Gallwch ddisgwyl llawer o’r mesurau rydych wedi ymgyfarwyddo â nhw mewn siopau a gofodau eraill dan do, megis pellhau cymdeithasol a glanweithydd dwylo.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
A oes angen i mi ddod ag unrhyw beth gyda fi?
Gallwch helpu i gadw chi eich hunan a phobl eraill yn ddiogel trwy wneud y canlynol:
- gwisgo gorchudd wyneb
- dod â’ch pen neu bensil eich hunan
- golchi eich dwylo wrth fynd i mewn a gadael yr orsaf bleidleisio
- cadw pellter diogel
A fyddaf yn dal yn gallu pleidleisio os oes symptomau COVID-19 arnaf?
Os byddwch yn sâl neu yn hunan-ynysu oherwydd COVID-19 yn agos at y diwrnod pleidleisio, neu ar y diwrnod ei hunan, nid oes angen i chi golli eich cyfle i bleidleisio.
Byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio, fel y gall rhywun rydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan. Dylai pleidleiswyr gysylltu â’r tîm cofrestru etholiadol ar 01978 292020.
Beth fydd yn digwydd os anghofiaf fy ngorchudd wyneb, neu os anghofiaf ddod â phen neu bensil?
Dylech ddod â’ch pen neu bensil eich hunan i leihau cyswllt ag eraill. Dylech hefyd wisgo gorchudd wyneb fel y gallwch gadw eich hunan a phobl eraill yn ddiogel ar y diwrnod pleidleisio.
Os byddwch yn anghofio ddod â’r rhain gyda chi, bydd gan staff yr orsaf bleidleisio orchuddion wyneb sbâr a phensiliau glân ar eich cyfer. Ni fyddwch yn cael eich atal rhag mynd i mewn i’r orsaf bleidleisio os anghofiwch y pethau hyn.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Dylai gymryd ond ychydig funudau i bleidleisio. Rydym wedi rhoi trefniadau ar waith i helpu i gynnal pellhau cymdeithasol o fewn yr orsaf bleidleisio. Mae hyn yn golygu y gallai fod angen i chi giwio i fynd i mewn. Os cewch eich gofyn i giwio, byddwch yn amyneddgar, ac fe wnawn sicrhau y cewch bleidleisio mor fuan â phosib.
Os ydych yn dal i fod yn aros mewn ciw i bleidleisio am 10pm, cewch bleidleisio cyn i’r pleidleisiau gau.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio?
Bydd staff yr orsaf bleidleisio gerllaw i’ch croesawu a’ch gwahodd i ddod i mewn cyn gynted ag y bydd y pleidleisiau’n agor am 7am. Bydd marcwyr ar y llawr a fydd yn dangos i chi pa ffordd y dylech fynd, ac i’ch helpu i gynnal pellhau cymdeithasol. Bydd staff hefyd yn tynnu eich sylw at y mesurau iechyd cyhoeddus y dylech eu dilyn pan fyddwch yn yr orsaf bleidleisio.
Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn rhoi papur pleidleisio i chi sy’n rhestru’r ymgeiswyr y gallwch bleidleisio drostynt. Yn ddibynnol ar yr etholiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal, efallai y byddwch yn derbyn fwy nag un papur pleidleisio i’w llenwi.
Ewch â’ch papur pleidleisio i fwth pleidleisio. Bydd silff i chi bwyso ac ysgrifennu arni. Defnyddiwch eich pen neu bensil eich hunan, neu os gwnaethoch anghofio dod ag un eich hunan, gofynnwch i’r clercod pleidleisio am un glân.
Sut ydw i’n llenwi’r papur pleidleisio?
Cymerwch eich amser: darllenwch y papur pleidleisio yn ofalus a’i lenwi yn unol â’r cyfarwyddiadau.
Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth arall ar y papur, neu efallai na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
Os gwnewch gamgymeriad, peidiwch â phoeni – cyn belled nad ydych wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhowch wybod i staff yr orsaf bleidleisio, ac fe wnânt roi un newydd i chi.
Beth ydw i’n ei wneud wedyn gyda’r papur pleidleisio?
Unwaith y byddwch wedi gorffen, plygwch eich papur pleidleisio yn hanner a’i roi yn y blwch pleidleisio. Bydd hwn ar y ddesg wrth ymyl y clercod pleidleisio.
Beth os oes angen help arnaf?
Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud, neu os oes angen unrhyw help arnoch, gofynnwch i staff yr orsaf bleidleisio – byddant yn hapus i’ch helpu.
Beth os byddaf yn cael problemau hygyrchedd?
Os oes anabledd arnoch sy’n golygu na allwch lenwi’r papur pleidleisio eich hunan, gallwch ofyn i’r Swyddog Llywyddu – y person sy’n gyfrifol am yr orsaf bleidleisio – farcio’r papur ar eich rhan, neu fe allwch fynd â rhywun gyda chi i’ch helpu.
Os oes nam ar eich golwg, gallwch ofyn am bapur pleidleisio print bras i gyfeirio ato wrth fwrw eich pleidlais, neu am ddyfais pleidleisio gyffyrddol sydd wedi di dylunio fel y gallwch farcio eich papur pleidleisio ar eich pen eich hunan.
A ddylwn i ddweud wrth unrhyw un pwy y gwnes i bleidleisio drostynt?
Mae eich pleidlais yn perthyn i chi yn unig, ac nid oes rhaid i chi ddatgelu i neb sut y gwnaethoch bleidleisio.
Weithiau fe gaiff arolygon barn eu cynnal wrth i bobl adael yr orsaf bleidleisio – fel arfer gan gwmnïau preifat sy’n gweithio ar ran papurau newydd neu ddarlledwyr – lle gofynnir i’r pleidleiswyr hynny sy’n gadael yr orsaf bleidleisio dros bwy y gwnaethant bleidleisio er mwyn ceisio darogan canlyniad yr etholiad. Nid oes angen i chi ymateb i’w cwestiynau os na ddymunwch felly.
Ni chantiateir trafodaethau gwleidyddol y tu fewn neu yn union tu fas i’r orsaf bleidleisio, a bydd staff yr orsaf bleidleisio yn gofyn i chi beidio fel nad oes peryg dylanwadu ar bleidleiswyr eraill. Os hoffech ddadlau ynghylch eich pleidlais gyda ffrindiau neu eich teulu, gwnewch hynny i ffwrdd o’r orsaf bleidleisio.
Beth yw “rhifwyr”? Pam maent yn gofyn am y rhif ar fy ngherdyn pleidleisio?
Efallai y byddwch yn gweld pobl y tu fas i’r orsaf bleidleisio yn gofyn am y rhif ar eich cerdyn pleidleisio. Gelwir y bobl hyn yn ‘rhifwyr’, ac maent yn gwirfoddoli ar ran ymgeiswyr neu bleidiau. Byddant yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei rhoi iddynt i wirio pwy sydd wedi pleidleisio, ac atgoffa pobl sydd heb bleidleisio eto i wneud felly.
Cânt fod yno a gofyn am y wybodaeth hon, ond nid oes rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth iddynt os nad ydych yn dymuno. Os oes gennych bryderon ynghylch ymddygiad rhifwr, siaradwch ag aelod o staff yr orsaf bleidleisio.
A allaf dynnu hunluniau neu luniau eraill wrth bleidleisio?
Ni chewch dynnu lluniau y fu fewn i’r orsaf bleidleisio, gan y gallai beryglu cyfrinachedd y bleidlais.
Croeso i chi dynnu lluniau tu fas i’r orsaf bleidleisio a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol i annog eich ffrindiau a theulu i bleidleisio.
A allaf fynd â fy ffrind / partner / plant / rhieni/ ci?
Gallech fynd i’r orsaf bleidleisio gyda phwy bynnag yr hoffech, ond dim ond y rheiny sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr orsaf honno a gaiff fynd i mewn. Rhaid i chi beidio â dod ag oedolyn arall gyda chi i’r blwch pleidleisio oni bai bod anabledd arnoch. Os felly, gallwch fynd â rhywun gyda chi i’ch helpu, neu fe allwch ofyn i un o aelodau staff yr orsaf bleidleisio am eu help.
Mae croeso i blant mewn gorsafoedd pleidleisio. Er na chaiff eich plentyn farcio’r papur pleidleisio ar eich rhan, cewch fynd â nhw i’r bwth pleidleisio.
Ni chaiff anifeiliaid, ac eithrio cŵn tywys, fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio fel arfer, felly bydd angen iddynt aros yn ddiogel y tu fas os byddwch yn penderfynu mynd â nhw gyda chi.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF