Mae preswylwyr o ddau gartref gofal yn Wrecsam wedi llunio llyfr ryseitiau arbennig, gan eu helpu i ail-fyw eiliadau melys o’u gorffennol.
Mae’r llyfr ryseitiau ‘Down Memory Lane – Through the Seasons’ yn gyfuniad o atgofion coginio gan drigolion cartrefi gofal Elm Villa (Gwersyllt) a Phenygelli (Coedpoeth) yn Wrecsam.
Gyda chymorth y Cydlynydd Gweithgareddau Diane Sweeney a staff o’r ddau gartref gofal, crëwyd y llyfr calonogol, ac mae’n ailadrodd atgofion plentyndod, straeon teuluol, bywyd yn ystod y Rhyfel, a llawer o bethau arbennig eraill.
Mae rhoi’r llyfr at ei gilydd wedi helpu’r preswylwyr i gofio blynyddoedd a aeth heibio, gan agor sgyrsiau newydd a lledaenu hapusrwydd trwy’r cartrefi gofal.
Dangoswyd hyn ym Mhenygelli yn ddiweddar, lle bu’r trigolion i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i bobi un o’r ryseitiau arbennig, sy’n cael ei hadnabod yn annwyl fel ‘bara taid’.
Dywedodd un o’r trigolion, Peter wrthym: “Fy rysáit yw bara fy nhaid. Dwi’n cofio’r streic bara yn y 1970au ond oherwydd bod taid yn gwneud ei fara’i hun, roedden ni i gyd yn iawn. Roeddwn i wrth fy modd yn ei wylio a’i helpu. Fe wnaethon ni rywfaint o’r bara yma ym Mhenygelli ychydig wythnosau yn ôl, a oedd yn hyfryd. Roedd yn ymdrech grŵp, ac fe ddaeth allan yn hyfryd.”
Mae’r cartrefi gofal wedi bod yn gwerthu copïau o’r llyfr i ymwelwyr gyda’r elw yn mynd tuag at weithgareddau yn y dyfodol i’r preswylwyr. Prynodd teuluoedd y trigolion nifer o’r llyfrau fel anrhegion Nadolig i’w ffrindiau.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, yr Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Oedolion: “Mae atgofion mor bwysig i’n cymunedau hŷn – mae’n rhoi hwb i les, yn gwella hwyliau, yn helpu gyda swyddogaeth wybyddol, ac mewn llawer o sefyllfaoedd yn lleihau unigrwydd. Mae’n swnio fel bod y llyfr ryseitiau wedi rhoi cyfle i’r preswylwyr siarad am atgofion hapus o’u gorffennol sy’n gallu bod yn beth hynod werthfawr.”
Atgofion
Cawsom y pleser o siarad â phreswylwyr o’r ddau gartref gofal am rai o’r atgofion hyn a pham eu bod wedi dewis eu ryseitiau. Dyma rai o’r pethau maen nhw’n eu dweud wrthym…
Robbie: “Dwi’n credu na fydd llawer o bobl wedi clywed am fy rysáit, felly mae’n braf ei rhannu. Dwi hefyd yn hoffi brecwast Cymreig da – bacwn, selsig, wy, pwdin gwaed, bara wedi ffrio a thomatos ffres.”
Mary: “Dyma’r bwyd a gawsom flynyddoedd yn ôl. Roeddwn i’n meddwl am wneud rysáit ar gyfer cawl traddodiadol, ond mae’n ychydig yn gyffredin felly es i gyda stiw corn bîff. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn gwneud pei. Fe wnes i fagu fy holl blant ar y ryseitiau hyn.”
Jean: “Mae fy rysáit ar gyfer cawl, sy’n gyflym ac yn eich cynhesu pan fydd y tywydd yn oer. Roeddwn i’n arfer gwneud cacennau Nadolig hefyd ond byddwn bob amser yn cael rhywun arall i roi eisin arnynt. Byddwn i’n gwneud pethau gwahanol am yr wythnos, a llawer o bethau parti gan y byddwn i’n gwneud llawer o adloniant. Roeddwn i’n arfer cael cyfarfodydd yn fy nhŷ a byddwn bob amser yn gwneud cacennau a sgons.”
Dot: “Es i gyda lobsgows – roedd yn rhywbeth y byddai fy mam yn ei wneud bob dydd Mawrth, ac fe wnes i ddal ati â’r traddodiad. Byddai’n bwydo’r teulu cyfan. Byddwn i’n defnyddio cig eidion stiwio a byddwn i’n ei wneud mewn popty pwysedd. Byddwn i’n gwneud y cig nes ei fod yn feddal ac yna’n ychwanegu llwyth o foron, nionod, pupur a thatws. Roedd yn hyfryd – ffefryn teuluol go iawn.”
Preswylydd di-enw: “Roedd fy nhad yn bysgotwr, ac roedd yn arfer dod ag eogiaid adref i de. Dwi’n hoffi eog a brithyllod, felly byddwn i’n dewis y naill bysgod na’r llall ar gyfer hoff bryd. Roeddwn hefyd yn ffodus i gael gŵr a oedd yn gigydd, felly doeddwn i byth yn brin o gig.”
Dorothy: “Dewisais ginio dydd Sul ar gyfer fy rysáit. Byddwn i’n ei wneud i’r teulu cyfan. Roedd mam a nain yn arfer ei wneud, felly fe wnes i ddilyn y traddodiad yn hapus pan oedd gen i fy nheulu fy hun.”
Dot: “Dwi’n cofio eistedd wrth y bwrdd yn bwyta fy nghinio Sul a fyddwn i ddim yn symud nes i mi fwyta popeth. Cig eidion a phwdin Swydd Efrog oedd fy ffefryn ac mae’n dal i fod.”
Doreen: “Roedd fy mam yn arfer gwneud popeth i ni. Gallaf ei chofio’n piclo nionod adeg y Nadolig ac yn rhannu gyda phawb. Byddai’r teulu i gyd yn dod acw. Mae fy mab yn dal i wneud y nionod rŵan.”
Hazel: “Fy rysáit oedd taffi triog, ond gallaf hefyd gofio casglu mwyar duon ar gyfer pasteiod a chrymbl. Roeddwn i’n arfer gwylio fy nhad a fy modryb yn ei wneud.”
Ethel: “Roeddwn i’n arfer tynnu afalau oddi ar y goeden, tynnu’r corun allan, rhoi syltanas i mewn a’i roi yn y popty – roedd yn hyfryd. Byddwn i’n gwneud treiffl hefyd – fe wnes i un ar gyfer parti stryd a gofynnodd dynes i mi o ble wnes i ei brynu. Dywedais wrthi fy mod i’n ei wneud fy hun a gofynnodd i mi wneud un iddi. Wnes i erioed gofyn am bres amdano.”
Muriel: “Byddai’r dyn cig yn ymweld â’n stryd, a byddwn yn prynu’r cig o’i fan. Byddwn ni’n cael ein te cyn Dad – byddai’n ei gael yn hwyrach pan fyddai’n dod adref o’r gwaith.”

Heneiddio’n Dda
Mae Heneiddio’n Dda yn Wrecsam yn ymwneud â chysylltu pobl o wahanol oedrannau, annog dysgu ym mhob cam o fywyd, a sicrhau bod gennym y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnom. Gallwch ddysgu mwy am Heneiddio’n Dda ar ein gwefan.
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam
Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2026/27 – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Ebrill!

