Bydd gorsaf brofi yn agor yr wythnos hon i’w gwneud yn haws i bobl yn Wrecsam i gael prawf Covid-19.
Bydd y cyfleuster mynediad-rhwydd wedi’i leoli yn y Neuadd Goffa ym Modhyfryd (LL12 7AG) ac yn dechrau ar ddydd Iau, 15 Hydref, ac yno nes bydd rhybudd pellach.
Am y deuddydd cyntaf – dydd Iau, 15 Hydref tan ddydd Gwener, 16 Hydref – bydd yr uned yn gweithredu ar sail ‘cerdded i mewn’.
Os oes gennych unrhyw symptomau yna gallwch fynd yno rhwng 9am a 5pm i gael eich prawf.
Nid oes angen apwyntiad arnoch – dim ond troi i fyny.
Ar ôl y deuddydd cyntaf – o ddydd Sadwrn ymlaen – mi fyddwch angen apwyntiad. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn dweud wrthych sut i wneud cais am brawf.
Gallwch hefyd wneud cais am brawf yn defnyddio ap Covid-19 y GIG ar eich ffôn.
Wrth i chi ddisgwyl am brawf neu eich canlyniadau gofynnwn i chi ddilyn yr arweiniad hunan-ynysu ar wefan Llywodraeth Cymru.
Arafu’r lledaeniad
Yn ogystal â’i gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl leol gael prawf, bydd y cam hwn yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol a swyddogion olrhain i adnabod mwy o achosion yn gynt…..gan helpu i atal y feirws rhag lledaenu yn Wrecsam.
Mae achosion yn cynyddu’n gyflym ar draws y rhan fwyaf o Ogledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae ffigyrau heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod gan Wrecsam 186 o achosion fesul 100k o’r boblogaeth (yn seiliedig ar dreigl o 7 diwrnod).
Dyma gynnydd anferthol ar 33 fesul 100k a adroddwyd dim ond pythefnos yn ôl.
Mae’r gwaith yn cael ei gydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Betsi Cadwaladr ac Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, Cyngor Wrecsam a phartneriaid eraill, gyda chefnogaeth y sefydliad sector gwirfoddol lleol CMGW a grwpiau cymunedol.
Ei gwneud hi’n haws i gael eich profi
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:
“Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu profi mynediad-rhwydd yn Wrecsam, a byddwn yn annog unrhyw un gyda symptomau i gymryd mantais o’r cyfleuster yn y Neuadd Goffa.
“Am y deuddydd cyntaf – dydd Iau a dydd Gwener – ni fydd angen apwyntiad arnoch ac mae’r broses yn gyflym a hawdd.
“O ddydd Sadwrn ymlaen mi fydd angen apwyntiad arnoch.
“Yn ogystal â bod yn gyfleus i bobl leol, mae’r profi ychwanegol yn helpu’r cyngor a’i bartneriaid i adnabod achosion yn haws…..a’i gwneud yn haws i gynnal y feirws.”
Os oes gennych symptomau, ewch i gael prawf
Yn ogystal â bod yn fwy cyfleus i bobl leol, mi fydd y profi mynediad-rhwydd yn ein helpu i ddeall y sefyllfa yn Wrecsam ymhellach.
Mae profi yn rhan hynod bwysig o’r strategaeth ar gyfer rheoli Covid-19 yng Nghymru, a gall fod y gwahaniaeth rhwng cynnal y feirws neu ei helpu i ledaenu.
Felly mae’n bwysig fod pobl yn camu ymlaen os ydyn nhw’n meddwl fod ganddyn nhw symptomau, ac un ai cerdded i mewn dydd Iau neu ddydd Gwener….neu wneud cais am brawf o ddydd Sadwrn ymlaen.
Os bydd eich prawf yn dod yn ôl yn bositif byddwch yn derbyn cyngor gan swyddogion olrhain yng Nghyngor Wrecsam.
Mi fyddan nhw’n eich cynghori ynglŷn â pha mor hir fydd yn rhaid i chi hunan-ynysu a pha gymorth sydd ar gael i chi yn ystod y cyfnod hunan-ynysu.
Mi fyddan nhw hefyd yn gofyn am eich help i olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â chi yn ddiweddar.
Cadw Wrecsam yn ddiogel a iach
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Dwi wedi cael sgyrsiau gyda Phrif Weinidog Cymru a Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyfarfodydd CLlLC ar ddod â chanolfan brofi i Wrecsam a dwi’n falch bod hynny’n cael ei wireddu.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, y cyngor a’n partneriaid yma i’ch cefnogi chi. Rhaid i ni helpu i gadw Wrecsam, ein teuluoedd a’n cymunedau yn ddiogel ac iach.
“Mae gennym lawer o waith i’w wneud i drechu’r feirws ond drwy wneud y pethau iawn rydych yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Diolch.”
Mae preswylwyr yn cael eu hatgoffa hefyd i:
- Gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol.
- Gwisgo mygydau mewn siopau a mannau dan do cyhoeddus eraill ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
- Golchi eich dwylo yn rheolaidd.
- Dim ond teithio allan o’r sir ar gyfer dibenion hanfodol fel gwaith neu addysg.
- Cyfarfod pobl o aelwydydd eraill y tu allan yn unig.