Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Profi mynediad-rhwydd yng nghanol tref Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Profi mynediad-rhwydd yng nghanol tref Wrecsam
ArallPobl a lle

Profi mynediad-rhwydd yng nghanol tref Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 16, 2020 10:35 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Covid-19
RHANNU

Bydd gorsaf brofi yn agor yr wythnos hon i’w gwneud yn haws i bobl yn Wrecsam i gael prawf Covid-19.

Cynnwys
  • Arafu’r lledaeniad
  • Ei gwneud hi’n haws i gael eich profi
  • Os oes gennych symptomau, ewch i gael prawf
  • Cadw Wrecsam yn ddiogel a iach

Bydd y cyfleuster mynediad-rhwydd wedi’i leoli yn y Neuadd Goffa ym Modhyfryd (LL12 7AG) ac yn dechrau ar ddydd Iau, 15 Hydref, ac yno nes bydd rhybudd pellach.

Am y deuddydd cyntaf – dydd Iau, 15 Hydref tan ddydd Gwener, 16 Hydref – bydd yr uned yn gweithredu ar sail ‘cerdded i mewn’.

Os oes gennych unrhyw symptomau yna gallwch fynd yno rhwng 9am a 5pm i gael eich prawf.

Nid oes angen apwyntiad arnoch – dim ond troi i fyny.

Ar ôl y deuddydd cyntaf – o ddydd Sadwrn ymlaen – mi fyddwch angen apwyntiad. Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn dweud wrthych sut i wneud cais am brawf.

Gallwch hefyd wneud cais am brawf yn defnyddio ap Covid-19 y GIG ar eich ffôn.

Wrth i chi ddisgwyl am brawf neu eich canlyniadau gofynnwn i chi ddilyn yr arweiniad hunan-ynysu ar wefan Llywodraeth Cymru.

Arafu’r lledaeniad

Yn ogystal â’i gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i bobl leol gael prawf, bydd y cam hwn yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol a swyddogion olrhain i adnabod mwy o achosion yn gynt…..gan helpu i atal y feirws rhag lledaenu yn Wrecsam.

Mae achosion yn cynyddu’n gyflym ar draws y rhan fwyaf o Ogledd Cymru ar hyn o bryd, ac mae ffigyrau heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod gan Wrecsam 186 o achosion fesul 100k o’r boblogaeth (yn seiliedig ar dreigl o 7 diwrnod).

Dyma gynnydd anferthol ar 33 fesul 100k a adroddwyd dim ond pythefnos yn ôl.

Mae’r gwaith yn cael ei gydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Betsi Cadwaladr ac Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, Cyngor Wrecsam a phartneriaid eraill, gyda chefnogaeth y sefydliad sector gwirfoddol lleol CMGW a grwpiau cymunedol.

Ei gwneud hi’n haws i gael eich profi

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:

“Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu profi mynediad-rhwydd yn Wrecsam, a byddwn yn annog unrhyw un gyda symptomau i gymryd mantais o’r cyfleuster yn y Neuadd Goffa.

“Am y deuddydd cyntaf – dydd Iau a dydd Gwener – ni fydd angen apwyntiad arnoch ac mae’r broses yn gyflym a hawdd.

“O ddydd Sadwrn ymlaen mi fydd angen apwyntiad arnoch.

“Yn ogystal â bod yn gyfleus i bobl leol, mae’r profi ychwanegol yn helpu’r cyngor a’i bartneriaid i adnabod achosion yn haws…..a’i gwneud yn haws i gynnal y feirws.”

Os oes gennych symptomau, ewch i gael prawf

Yn ogystal â bod yn fwy cyfleus i bobl leol, mi fydd y profi mynediad-rhwydd yn ein helpu i ddeall y sefyllfa yn Wrecsam ymhellach.

Mae profi yn rhan hynod bwysig o’r strategaeth ar gyfer rheoli Covid-19 yng Nghymru, a gall fod y gwahaniaeth rhwng cynnal y feirws neu ei helpu i ledaenu.

Felly mae’n bwysig fod pobl yn camu ymlaen os ydyn nhw’n meddwl fod ganddyn nhw symptomau, ac un ai cerdded i mewn dydd Iau neu ddydd Gwener….neu wneud cais am brawf o ddydd Sadwrn ymlaen.

Os bydd eich prawf yn dod yn ôl yn bositif byddwch yn derbyn cyngor gan swyddogion olrhain yng Nghyngor Wrecsam.

Mi fyddan nhw’n eich cynghori ynglŷn â pha mor hir fydd yn rhaid i chi hunan-ynysu a pha gymorth sydd ar gael i chi yn ystod y cyfnod hunan-ynysu.

Mi fyddan nhw hefyd yn gofyn am eich help i olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â chi yn ddiweddar.

Cadw Wrecsam yn ddiogel a iach

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Dwi wedi cael sgyrsiau gyda Phrif Weinidog Cymru a Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chyfarfodydd CLlLC ar ddod â chanolfan brofi i Wrecsam a dwi’n falch bod hynny’n cael ei wireddu.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, y cyngor a’n partneriaid yma i’ch cefnogi chi. Rhaid i ni helpu i gadw Wrecsam, ein teuluoedd a’n cymunedau yn ddiogel ac iach.

“Mae gennym lawer o waith i’w wneud i drechu’r feirws ond drwy wneud y pethau iawn rydych yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Diolch.”

Mae preswylwyr yn cael eu hatgoffa hefyd i:

  • Gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol.
  • Gwisgo mygydau mewn siopau a mannau dan do cyhoeddus eraill ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Golchi eich dwylo yn rheolaidd.
  • Dim ond teithio allan o’r sir ar gyfer dibenion hanfodol fel gwaith neu addysg.
  • Cyfarfod pobl o aelwydydd eraill y tu allan yn unig.
Rhannu
Erthygl flaenorol Greyhound Inn Cyflwyno Hysbysiad Cau i’r Greyhound Inn (13.10.2020)
Erthygl nesaf halloween Calan Gaeaf 2020 – Parchu, Gwarchod, Mwynhau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English