Beth sy’n gwneud swydd yn un gwerthfawr?
Rhan amlaf, mae nifer o bethau gwahanol yn gwneud swydd yn un gwerthfawr .. ond dychmygwch swydd lle rydych yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc a chynnig cymorth i’w teuluoedd hefyd?
Byddai honno’n swydd werthfawr tu hwnt.. cytuno?
Wel mae’r swydd arbennig hon yn taro’r disgrifiad hwn i’r dim..
Rydym ar hyn o bryd yn hysbysebu am Swyddog Gofal Plant Preswyl i weithio yng Nghanolfan Blant Rhodfa Tapley, ar gyrion Parc Acton yn Wrecsam.
Mae’r swydd yn cynnwys cynnig gofal seibiant drwy gydol y flwyddyn, ar sail wedi’i gynllunio, i blant a phobl ifanc ag anableddau rhwng 6 ac 17 oed (mae hyn yn cynnwys anableddau corfforol neu anableddau dysgu, amhariad ar y synhwyrau a/neu salwch cronig).
Mae’n le gwych i weithio, ac mae’r ganolfan wedi’i theilwra’n berffaith i gynnig y gofal y mae pobl ifanc ei angen.
Oes gennych chi ddiddordeb? Darllenwch ymlaen …
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm ymrwymedig a phrofiadol i sicrhau fod pob ymwelydd yn derbyn profiad boddhaol yn y ganolfan. Byddwch yn cynnig cymorth i bobl ifanc a’u teuluoedd gyda dealltwriaeth wych.
Gall fod yn fywiog ac yn heriol, ond yn eithaf arbennig hefyd 🙂
Yn ogystal â hynny, bydd gennych rwydwaith rhagorol o gefnogaeth a bydd cyfleoedd parhaus i dderbyn hyfforddiant i ddatblygu eich hun ymhellach.
Pa brofiad ydw i ei angen?
Dylech feddu ar brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau amrywiol (anableddau corfforol neu anableddau dysgu, amhariad ar y synhwyrau a/neu salwch cronig).
Byddwch hefyd yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 FfCCh neu barodrwydd i ymgymryd â hyn ar ôl dechrau’r swydd.
Mae gennyf ddiddordeb – sut ydw i’n cysylltu â chi?
I weld y disgrifiad swydd yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod …
Ond brysiwch, mae’r dyddiad cau ar 9 Tachwedd.
Gwych … Ddangoswch y SWYDD Na… Dw i’n iawn ddiolch