Nid oes modd ei osgoi, mae plastigion untro yn broblem fawr.
Ac wrth drafod plastigion o’r fath, rydym yn golygu’r pethau hynny sy’n anodd eu hailgylchu ac sy’n tueddu i gael eu defnyddio un waith, cyn cael eu taflu.
I weld faint rydych eisoes yn gwybod amdanynt, ac i’ch helpu chi ddeall ychydig mwy, pa na rowch chi gynnig ar ein cwis?
Nid yw’n hir – pum cwestiwn cyflym – a bydd yn eich helpu chi ar eich trywydd i fod yn arwr ailgylchu 🙂
Rhowch gynnig arni a gweld sut rydych yn gyrru ‘mlaen. Bydd yr atebion cywir yn cael eu harddangos ar ddiwedd yr erthygl hon.
Felly, sut wnaethoch chi? Peidiwch â phoeni os na gawsoch chi 5/5 yn syth – y peth pwysig yw eich bod eisiau dysgu a gwella wrth ailgylchu 🙂
Un o’r prif ffyrdd y gallwch fod yn well wrth ailgylchu yw peidio â defnyddio plastig untro a defnyddio opsiynau bioddiraddadwy neu rhai y gellir eu hailddefnyddio gymaint â phosib.
I wybod mwy am ailgylchu, cofrestrwch i dderbyn awgrymiadau ailgylchu a gwybodaeth gennym.
Os gwnewch chi hynny, byddwch ar y trywydd iawn i fod yn arwr ailgylchu 🙂
Gallwch dderbyn awgrymiadau a gwybodaeth i’ch helpu chi ddod yn arwr ailgylchu
Atebion y cwis
1) Pob un 2) Cadi gwastraff bwyd 3) 1205 tunnell 4) 725,000 5) Tua 50%