Eleni, rydyn ni wedi dechrau gweithio ar ein cyllideb yn gynt na’r arfer.

Rydyn ni’n wynebu’r sefyllfa fwyaf anodd erioed gyda’n cyllideb.

Fel arfer, ni fyddem ni gymaint ar y blaen yn y broses. Ond, gan ein bod ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni wneud toriadau, roeddem yn credu y byddai’n well edrych arnynt cyn yr haf.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

Fel hyn, erbyn yr hydref/y gaeaf, pan fydd cyhoeddiadau cyllid yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru, byddwn yn gallu rheoli ein cyllideb ar gyfer 2020/21 yn effeithiol, gan ddod o hyd i gydbwysedd rhwng toriadau a Threth y Cyngor.

“Rhai o’r meysydd mae’n rhaid i ni edrych arnyn nhw ydi:”

  • Mwy o gyllid gan lywodraethau cenedlaethol – Mae penderfyniadau diweddar gan lywodraethau wedi golygu ein bod wedi gorfod cynyddu codiadau cyflog, yn ogystal â wynebu pwysau ychwanegol. Hyd yma, nid yw hyn wedi’i gefnogi’n llawn gan gynnydd parhaol i gyllid gan y llywodraeth, ac rydyn ni wedi gorfod ariannu rhan ohonynt ein hunain.
  • Treth y Cyngor – Mae cyfradd Treth y Cyngor Band D Wrecsam yn isel iawn o’i chymharu ag awdurdodau eraill y wlad. Rydyn ni’n gwybod faint mae cynnydd i Dreth y Cyngor yn effeithio ar bobl leol a bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng hynny a’r effeithiau sydd yr un mor anodd os oes rhaid torri ar wasanaethau, os nad oes cynnydd.
  • Stopio neu dorri ar wasanaethau, a thorri ar lefelau gwasanaethau – Mewn rhai meysydd nad ydynt yn flaenoriaeth, bydd yn rhaid stopio neu dorri ar wasanaethau i ateb y pwysau ar ein cyllideb. Ni allwn ni aildrefnu pethau yn unig bellach – rydyn ni’n aildrefnu pethau drwy’r amser. Mae’n rhaid i ni edrych ar ein blaenoriaethau i sicrhau ein bod yn gallu cadw gwasanaethau hanfodol a rhai sy’n cael blaenoriaeth.
  • Arbedion effeithlonrwydd – Mae rhan fawr o’r £62 miliwn rydyn ni wedi gorfod ei arbed yn yr un mlynedd ar ddeg ers cychwyn y cyfnod o gynni ariannol wedi bod o ganlyniad i arbedion effeithlonrwydd, felly efallai nad oes llawer ar ôl, ond byddwn yn dal i weithio’n galed i ddod o hyd iddynt a’u gweithredu.
  • Cydweithredu a gweithio gyda phartneriaid – Mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau mewn perygl, byddwn yn rhoi gwybod i bobl cyn gynted ag y gallwn er mwyn i bartneriaid a chymunedau awgrymu beth allai ddod yn eu lle.

“Pa doriadau rydyn ni eisoes wedi’u gwneud?”

Ers argyfwng economaidd 2007/08 – ac fe gyflwynwyd mesurau cynni ariannol tua diwedd 2008 – rydyn ni wedi gwneud toriadau ac arbedion effeithlonrwydd o dros £62 miliwn.

Mae hynny tua chwarter y gyllideb o £237 miliwn ar gyfer eleni.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn ein gweithlu hefyd – mae dros 600 o swyddi llawn amser wedi mynd.

Mae toriadau wedi bod yn yr uwch dîm arweinyddiaeth, sydd wedi helpu i arbed mwy na £300,000 y flwyddyn.

Ond dydyn ni bellach ddim mewn sefyllfa i barhau i wneud toriadau – rydyn ni wedi dod at bwynt di-droi’n-ôl, oherwydd lefel y toriadau a’r penderfyniadau tu hwnt o anodd y bydd yn rhaid eu gwneud.

“Ein blaenoriaethau “

Mae gennym ni weledigaeth glir ynghylch ein rôl. Rydyn ni’n gwybod beth y gallwn ni ei ddarparu, hyd yn oed gydag ychydig o adnoddau. Mae’r rhain yn eithaf clir ac yn golygu y gallwn ni barhau i ddarparu gwasanaethau da.

Ond hyd yn oed gyda’r rhain ar waith, mae’n dal yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd ynghylch y gwasanaethau hynny mae’n rhaid eu stopio neu eu lleihau.

Yn rhan o’n gwaith, rydyn ni wedi cytuno ar chwe blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol, a fydd yn ein helpu i ddatblygu Wrecsam fel lle.

Y blaenoriaethau hynny a’r rhesymau y tu ôl iddyn nhw ydi:

  • Datblygu’r economi: mae nifer o brosiectau mawr ar waith a fydd yn helpu i siapio Wrecsam fel lle
  • Sicrhau Cyngor modern a chryf
  • Sicrhau bod pawb yn ddiogel: mae hon yn hawl sylfaenol i bawb
  • Gwella addysg uwchradd: mae hyn yn allweddol i’n dyfodol
  • Gwella’r amgylchedd: mae’r rhain yn wasanaethau cymunedol y mae pawb yn eu cyfrif yn bwysig
  • Hyrwyddo iechyd a lles: dim ond trwy wneud hyn y byddwn ni’n gallu ceisio lleihau’r galw cynyddol sydd ar ein gwasanaethau gofal cymdeithasol

“Camau’r dull y byddwn ni’n ei ddefnyddio”

Fel y soniwyd uchod, fe ddechreuom ni ar broses y gyllideb yn gynt na’r arfer ac rydyn ni wedi’i rhannu’n ddau gam gwahanol.

Bydd Cam 1 yn canolbwyntio ar benderfyniadau sy’n gallu cael eu gwneud yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol tua diwedd mis Gorffennaf, cyn yr haf. Gallai hynny gynnwys gwneud toriadau rydyn ni wedi ymgynghori arnyn nhw eisoes. Byddwn hefyd yn edrych ar ymgynghori ac ymgysylltu ymhellach ar doriadau eraill.

Bydd Cam 2 yn digwydd yn yr hydref/gaeaf, ar ôl i ni gael Setliad Rhagarweiniol Refeniw a Chyfalaf Llywodraeth Leol ar gyfer 2020/21. Bydd yn rhaid i ni edrych ar doriadau eraill ar y cam hwn hefyd.

“Nid ar chwarae bach rydyn ni’n gwneud y penderfyniadau yma”

Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Os byddwn ni’n derbyn setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Prydain a Chymru, rydyn ni’n credu – cyn belled ein bod yn gwneud y cam hwn o doriadau – y gallwn ni oroesi proses y gyllideb heb wneud toriadau a fyddai’n gwthio ein gwasanaethau dros bwynt di-droi’n-ôl.

“Hyd yn oed yn y cynigion yma, rydyn ni’n cynnig pethau fel codi tâl ar gyfer biniau gwyrdd, ac yn sgwrsio gyda chymunedau am ddarpariaeth llyfrgelloedd yn y dyfodol.

“Nid ar chwarae bach rydyn ni’n gwneud y penderfyniadau yma, ond os ydym ni eisiau gwarchod gwasanaethau pwysig fel addysg a gofal cymdeithasol, yna mae’n rhaid eu gwneud nhw rŵan.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Pritchard: “Er hynny, os nad ydyn ni’n cael setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru neu San Steffan, bydd yn rhaid i ni dorri mwy ar wasanaethau allweddol, neu ystyried codi Treth y Cyngor yn sylweddol.

“Bydd gweithio tuag at fod yn barod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn her, ond gyda gweledigaeth glir, blaenoriaethau, dull cytbwys o drin y gyllideb a thrwy gydweithio’n lleol ac yn genedlaethol, rydyn ni’n benderfynol o weithio i ddarparu’r gwasanaethau cywir ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Pan fu i ni ymgynghori â’r cyhoedd y llynedd, roedd llai nag un rhan o dair yn erbyn codi tâl am finiau gwyrdd neu gasgliadau pob tair wythnos. Mae hefyd yn unol â glasbrint gwastraff Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n gwybod nad ydi hi’n hawdd, ond bydd gwneud hyn yn gwarchod gwasanaethau rheng flaen allweddol.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

DWI ISIO MYNEGI FY MARN! DOES DIM OTS GEN