




Ar 9 Mai 2024, aeth tîm Lleihau Carbon Cyngor Wrecsam i ymweld â’r Prosiect Coedwig Fach yn Ysgol Bro Alun, lle mae cynnydd gwych yn cael ei wneud. Mae coedwigoedd bach yn goetiroedd brodorol trwchus, sy’n tyfu’n gyflym, tua’r un maint â chwrt tennis. Mae’r coedwigoedd hyn yn helpu i roi hwb i fioamrywiaeth trwy ddarparu cartref i fywyd gwyllt, a byddant yn helpu pobl i gysylltu â natur a dysgu amdano.
Yn Ysgol Bro Alun, mae gwaith creu’r Goedwig Fach yn mynd rhagddo diolch i waith caled ein partneriaid Woodswork CIC. Mae cannoedd o goed wedi’u plannu, gyda help y plant a gwirfoddolwyr. Mae ardal ysgol goedwig wedi’i chynnwys hefyd, lle bydd y plant yn dysgu am yr amgylchedd naturiol wrth gael hwyl yn ardal y coetir. Bydd pecynnau ysgol yn cael eu creu er mwyn i ysgolion eu cynnwys yn eu cwricwlwm. Bydd y deunyddiau hyn i gyd yn ddwyieithog, gyda help ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel bod modd i bob ysgol eu defnyddio.
Mae cynlluniau ar gyfer mwy o safleoedd yng Nghefn a Pharc Caia hefyd, felly os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i helpu i greu Coedwigoedd Bach, cysylltwch â decarbonisation@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Ffotograffau trwy garedigrwydd Christopher Hall