Ar ddechrau 2020, roedd aelodau llyfrgell Gwersyllt, a thrigolion lleol yn cynhyrchu sgwariau wedi eu gwau er mwyn eu gwnïo gyda’i gilydd i greu blancedi lliwgar.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Cynhyrchwyd nifer o blancedi cyn y cyfnod clo cyntaf.
Er bod y prosiect wedi ei oedi ar hyn o bryd, mae nifer o bobl wedi dal ati i wau.
Mae’r sgwariau wedi parhau i gyrraedd llyfrgell Gwersyllt gyda thrigolion yn galw heibio i adael y sgwariau gwau wrth gasglu neu gyfnewid llyfrau gan ddefnyddio ein gwasanaeth clicio a chasglu.
Dywedodd y llyfrgellwyr Lyn Edwards a Sue Melacrinis eu bod wedi gwirioni’n lân gyda haelioni’r gymuned.
Yr wythnos hon, derbyniodd Sarah Evans, Rheolwr Cartref Gofal Hollybank gyflenwad o blancedi wedi’i gwau ar ran preswylwyr y cartref gofal, ac roedd hi wrth ei bodd gyda’r cyfraniad.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Y grwpiau sy’n rhan o’r prosiect yw Grŵp Gwau a Sgwrs Llyfrgell Gwersyllt, y Clwb Llyfrau Oedolion, Clwb Cinio Adnoddau Gwersyllt a’r grŵp dros 60 oed.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Diolch i bawb am roi eu hamser a chymryd rhan.”
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar glicio a chasglu o’ch llyfrgell leol eto?
Manylion llawn yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG