Mae dros 100 o bobl ifanc eisoes wedi eu cyfeirio at brosiect ADTRAC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint, a lansiodd ym mis Chwefror eleni. Mae’r prosiect, a gefnogir drwy Gronfeydd Strwythurol Ewrop, yn ceisio cynnig cefnogaeth bwrpasol wyneb yn wyneb gan fentoriaid personol ADTRAC neu ymarferwyr iechyd meddwl y GIG yn ogystal â hyfforddiant a chyrsiau wedi eu dylunio i gwrdd ag anghenion penodol a gwell alles pobl ifanc 16-24 oed sydd yn cymryd rhan yn y prosiect.
Mae’r prosiect yn cynnal cymorth personol i bobl ifanc i chwalu rhwystrau a helpu eu cynnydd i fyd gwaith, addysg, neu hyfforddiant.
“Canlyniadau Trawiadol”
Wrth siarad mewn digwyddiad dathlu ar gyfer pobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect ddydd Gwener 30 Ebrill 2018, dywedodd Aelod Cynulliad Wrecsam, Lesley Griffiths: “Mewn cyfnod cymharol fyr, mae prosiect ADTRAC wedi cyflawni canlyniadau trawiadol, gyda dros 100 o bobl yn elwa ar y gwasanaethau a ddarperir. Mae’n braf gweld nifer o asiantaethau yn gweithio mewn partneriaeth, yn cefnogi rhai o’r bobl fwyaf diamddiffyn mewn cymdeithas drwy gynnig y cyfle i ennill cymwysterau na fyddent efallai wedi eu cyflawni fel arall.”
“Roedd yn anrhydedd mawr i gael cyflwyno tystysgrifau i’r oedolion ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect ADTRAC. Ar ôl treulio amser gyda rhai o’r unigolion, roedd yn amlwg fod eu hyder a’u hunan-gred yn cynyddu, ac rwy’n gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o oedolion ifanc o Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos yn elwa o’r prosiect yn y dyfodol.”
Gweithio mewn partneriaeth
Arweinir ADTRAC gan Grŵp Llandrillo Menai ar draws Gogledd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.
“Angen gwirioneddol am y gwasanaeth”
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, “Mae hwn yn ddechrau gwych i’r prosiect ac rwy’n gynhyrfus i weld sut y bydd yn parhau. Gyda dros 100 o atgyfeiriadau yn barod, mae’n dangos fod angen gwirioneddol am y gwasanaeth ac y bydd yn gwneud gwasanaeth i fywydau pobl ifanc yn yr ardal. Fedra i ddim aros i weld sut bydd y prosiect hwn yn datblygu dros y misoedd nesaf.”
Beth mae ADTRAC yn ei gynnig?
- Cymorth dwys un i un
- Cynlluniau gweithredu personol
- Cefnogaeth i ddatblygu hyder a goresgyn rhwystrau
- Cymorth lles gan gynnwys y cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth ar gyfer anghenion iechyd meddwl ysgafn / cymedrol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Mynediad at hyfforddiant
- Cymorth cyflogadwyedd
Cewch wybod mwy am y prosiect ar https://www.gllm.ac.uk/adtrac neu cysylltwch â thîm ADTRAC Wrecsam a Sir y Fflint ar ADTRAC@wrexham.gov.uk i gael rhagor o fanylion ynghylch y broses atgyfeirio ar gyfer sefydliadau yn ogystal â hunan-atgyfeiriadau.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI