Mae menter newydd i helpu pobl ifanc ddatblygu hyder a dysgu sgiliau bywyd pwysig newydd gael ei lansio yn Wrecsam.
Mae Prosiect Kickstart yn anelu i gefnogi pobl ifanc 16 oed a hŷn sydd ag amgylchiadau neu anghenion cymhleth – bydd yn eu helpu nhw i ddysgu sgiliau ymarferol a chymdeithasol, datblygu eu haddysg, dod o hyd i waith a byw bywydau mwy annibynnol.
Bydd llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd yn elwa o’r prosiect, ac mae’n cael ei gyflwyno gan Gyngor Wrecsam, Castell Ventures a Chymdeithas Tai Wales & West.
Bydd y cynllun yn cynnig gwahanol lefelau o gefnogaeth, yn amrywio o lety dan oruchwyliaeth 24/7 i’r rhai sydd angen llawer o help i ddechrau, i gefnogaeth lai dwys i’r rhai sydd wedi cymryd camau breision at fyw’n annibynnol.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Pan fyddwch chi’n dod yn oedolyn, cymerir yn ganiataol bod yn rhaid i chi sefyll ar eich traed eich hunain a gwneud penderfyniadau priodol ynghylch materion fel arian a dod o hyd i waith.
“Fodd bynnag, i lawer o bobl, yn enwedig oedolion ifanc ag anghenion cymhleth neu sy’n wynebu amgylchiadau heriol – e.e. heb deulu i’w cefnogi nhw – gall fod yn gyfnod aruthrol o anodd.
“Drwy ddarparu’r gefnogaeth gywir gallwn fagu eu hyder a’u rhoi ar ben y ffordd i ddod yn oedolion cryf ac annibynnol.
“Bydd prosiect Kickstart yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl ifanc, a dim ond un enghraifft ydi hon o sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio tu ôl i’r llenni yn cefnogi pobl ifanc leol.”
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI