Da ni wedi cyrraedd ail wythnos y gwyliau ysgol ac mae ‘na dal ddigonedd o weithgareddau am ddim i chi a’ch plant eu gwneud.
Rhif un yr wythnos hon wrth gwrs ydi’r Diwrnod Chwarae yng nghanol y dref
Bydd yn cael ei gynnal rhwng 12.00 a 4.00 ac mae’n ddigwyddiad sydd wirioneddol ar gyfer plant o bob oed ac ni fydd yn costio’r un geiniog. Bydd yr hen ffefrynnau i gyd yn ôl eleni, gan gynnwys y pwll tywod anferth, brwydrau dŵr, chwarae â jync a rhaffau sbring. Y cwbl sydd ei angen ydi’r awydd i gael lot o hwyl a hen ddillad fydd dim ots os ydyn nhw’n mynd yn wlyb neu’n fudr. Byddai mynd â phicnic yn syniad da, wedyn gallwch aros a mwynhau eich hun drwy’r prynhawn.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Rhif dau ydi’r her ddarllen
Mae her ddarllen yr haf wedi cychwyn!! Ewch draw i Lyfrgell Llai i weld os allwch chi ddod o hyd i rai o’r Asiantau Anifeiliaid gyda’r Ymddiriedolaeth Cŵn rhwng 3.00 a 4.00 bnawn Gwener, 4 Awst. Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer plant rhwng 7 – 11 a fydd yn cael gwrando ar y stori “The Mysterious Case of the missing honey” gan Claire Fredman a Holly Swain.
Fydd Inspector Clueless a’i gi “Sniff it out” yn gallu datrys y dirgelwch? Fe fydd ‘na gêm synhwyrau i weld os oes gan eich plant chi’r gallu i ddefnyddio’u synhwyrau i ddod o hyd i gliwiau, a bydd ci wedi’i achub yn ymweld i ddangos ei sgiliau datrys blychau pos. Os hoffech fynychu’r digwyddiad hwn bydd angen i chi gadw lle drwy ffonio 01978 855100.
Darllenwch fwy am Her Ddarllen yr Haf yma
Rhif tri ydi nofio am ddim
Sesiynau nofio am ddim ar amrywiol adegau ym mhyllau nofio’r Cyngor yn Byd Dŵr, Canolfan Hamdden Gwyn Evans a Chanolfan Hamdden y Waun – rhagor o wybodaeth ar gael yma
Rhif pump – gwers offeryn am ddim
Ar naill ai ddydd Llun, dydd Mawrth neu ddydd Iau gall plant gymryd rhan mewn gwersi arbrofol am ddim ar y piano, bysellfwrdd, gitâr neu ddrymiau yng Nghanolfan Adnodd Cymunedol Acton. Mae cyfyngiad oed ar rai o’r offerynnau. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud ydi mynd i www.PrestonMusicSchool.co.uk i gofrestru ar gyfer gwers a bydd y tîm gweinyddu’n gwneud y trefniadau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI