Mae pedwar diwrnod gwych o hwyl a gweithgareddau i chi a’ch teuluoedd gymryd rhan ynddynt rhwng 2 a 5 Mehefin i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Byddent oll yn dangos yr amrywiaeth, diwylliant a doniau gwych sydd gennym yma yn Wrecsam.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Yn Tŷ Pawb bydd digwyddiadau cerddoriaeth byw Wrexfest am ddim, ffilmiau i’r teulu a gweithgareddau rhwng hanner dydd a 7pm ar 2, 3 a 4 Mehefin – gwelwch y rhestr gyflawn ar gyfer y diwrnod yma.
Ar Stryt Henblas gan gynnwys plot Hippodrome a’r Ganolfan Yellow and Blue ar 2, 3 a 4 Mehefin, bydd nifer o weithgareddau ymlaen gyda stondinau, dawnswyr, cantorion, bandiau a cherddorion o 11am.
Bydd Eglwys San Silyn a Neuadd y Dref yn goleuo rhwng 9pm a hanner nos ar 2 Mehefin.
Ar 5 Mehefin bydd y Parciau yn cynnal picnic yn y parc i deuluoedd am ddim rhwng 2pm a 7pm, lle gallwch ddod â phicnic, cadeiriau a blancedi gyda chi. Bydd band pres, dawnsio, canu ar y cyd, atgofion a llawer mwy!
Dewch o hyd i ragor o ddigwyddiadau dros wyliau’r banc yma:
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH