Rydyn ni i gyd yn caru ein bwyd, fedrwn ni ddim gwadu hynny, ond a yw diogelwch ein bwyd yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol?
Fel rhan o’r wythnos Diogelwch Bwyd Cenedlaethol (4-10 Mehefin), rydym yn gweithio gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd i roi sylw i ddiogelwch bwyd a’r tîm sy’n gweithio y tu ôl i’r llen i helpu sicrhau bod y bwyd yr ydym i gyd yn ei brynu a’i fwyta yn ddiogel.
Mae gennym dîm o swyddogion diogelwch bwyd ymroddedig sy’n ymweld â busnesau bwyd lleol i sicrhau bod eu hylendid yn cyrraedd y safon. Maent yn ymweld â busnesau sy’n cyflenwi neu’n gweini bwyd yn uniongyrchol i gwsmeriaid megis bwytai, tafarndai, caffis, bwyd cyflym, faniau neu stondinau bwyd, ffreuturau, gwestai, archfarchnadoedd, ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
Maent yn rhoi Graddfa Hylendid Bwyd i bob busnes o 0, nad yw’n dda iawn o gwbl ac mae angen ei wella ar frys i 5, sydd yn dda iawn, a’r raddfa uchaf y gall unrhyw fusnes ei ddisgwyl.
Yn Wrecsam mae gennym 1350 o safleoedd i’w gwirio a 98% ohonynt ar hyn o bryd yn 3 seren neu fwy – mae hynny’n ganran eithaf da ond ni fydd swyddogion diogelwch bwyd yn eistedd yn ôl – byddant yn parhau i archwilio a chynghori busnesau i gael y 2% arall i wella eu graddfa.
Sut alla i wirio graddfa fwyd busnes?
Mae’n hawdd gwirio gradd bwyd busnes gan y dylent fod yn arddangos sticer gwyrdd a du naill ai yn eu ffenestr neu ddrws neu rywle lle mae’n hawdd i’r cwsmer ei weld. Os na allwch ei weld – gofynnwch yn bendant ble mae o? Gallwch hefyd wirio ar-lein yn http://ratings.food.gov.uk/default/cy-GB.
“Tawelwch Meddwl”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae gennym dîm sy’n gweithio’n galed iawn i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, fel y gallwn ni gyd fod yn dawel ein meddwl wrth brynu neu fwyta ein bwyd. Mae Graddau Safonau Bwyd wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth godi’r safonau mewn busnesau bwyd, nid yn unig ar draws Wrecsam ond ar draws Cymru a byddwn yn annog pawb ddechrau eu gwirio – maent ar gael er lles pawb.”
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL