Ydych chi’n gwybod am seren chwaraeon sy’n haeddu cydnabyddiaeth?
Dim ond ychydig ddyddiau sydd gennych ar ôl i wneud eich enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon blynyddol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a gynhelir i nodi cyflawniadau a gwaith caled gwirfoddolwyr, athletwyr a phobl sy’n ymwneud â chwaraeon ar draws Wrecsam.
Efallai eich bod yn gwybod am rywun sy’n gwirfoddoli bob awr sydd ar gael i gefnogi grŵp neu glwb chwaraeon?
Neu efallai eich bod yn gwybod am rywun sydd wedi goresgyn anawsterau neu galedi i gyflawni mawredd yn eu maes chwaraeon?
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Y naill ffordd, mae arnom ni eisiau clywed gennych chi – ac mae enwebiadau bellach ar agor.
Cliciwch yma i enwebu rhywun.
Fel arall gallwch anfon eich enwebiad ar e-bost i sportsawards@wrexham.gov.uk.
Bydd enwebiadau’n cau ar 14 Rhagfyr!!
Cynhelir y seremoni wobrwyo ar Safle Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo ddydd Gwener, 15 Chwefror 2019.
Dathlodd gwobrau chwaraeon y llynedd ymdrechion gwirfoddolwyr chwaraeon ac athletwyr ymroddedig ar draws Wrecsam – ac ni fydd eleni’n wahanol.
“Cydnabyddiaeth haeddiannol”
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae’r Gwobrau Chwaraeon blynyddol yn sicrhau bod y rhai sydd yn gweithio’n galed yn ein clybiau chwaraeon a grwpiau chwaraeon cymunedol yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol am eu hymdrechion.
“Fe wyddom fod yna ddigon o wirfoddolwyr sydd yn gweithio’n galed, ynghyd â llawer o athletwyr sydd yn cynrychioli’r gorau o ysbryd chwaraeon Wrecsam.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU